Dim cosb ychwanegol i Stoddart

Morgan Stoddart
Cafodd Morgan Stoddart ddau gerdyn melyn yn erbyn Clermont

Mae chwaraewr rygbi y Scarlets a Chymru, Morgan Stoddart, wedi cael gwybod na fydd yn cael cosb ychwanegol ar ôl cael ei hel o'r maes y penwythnos diwethaf.

Cafodd Stoddart gerdyn coch awtomatig gan y dyfarnwr o Iwerddon Peter Fitzgibbon wedi iddo gael dau gerdyn melyn wrth i'r Scarlets golli 49-16 yn erbyn Clermont Auvergne yn y Stade Marcel Michelin yng Nghwpan Heineken.

Roedd swyddog disgyblu annibynnol Cwpan Rygbi Ewrop, Anthony Davies, wedi ystyried y mater ac wedi darllen datganiadau ysgrifenedig.

Ei benderfyniad oedd bod y cerdyn coch yn ddigon o gosb gan nad oedd yr un o'r ddwy drosedd cerdyn melyn am chwarae budr.

Mae'n golygu y bydd Stoddart ar gael ar gyfer gêm y Scarlets yng Nghwpan Heineken yn erbyn Leinster ar Barc y Scarlets ddydd Sadwrn.