Dyfodol gwiwerod coch Gwynedd

  • 16 Hydref 2012
Gwiwer coch Image copyright PA
Image caption Mae nifer o wiwerod coch wedi cael eu gweld ar y tir mawr

Mae yna dystiolaeth gadarn erbyn hyn bod gwiwerod coch yn bridio yng ngogledd Gwynedd.

Ond ar ôl i'r prosiect i gael gwared â gwiwerod llwyd yr ardal fethu gyda chais am arian gan Lywodraeth Cymru i barhau â'i waith, mae arbenigwyr yn poeni na fydd y creaduriaid prin yn cael y cyfle i ffynnu yn y sir.

Mae gwaith Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Gogledd Cymru i gael gwared â'r rhai llwyd ar Ynys Môn - er mwyn rhoi'r cyfle i'r rhai coch ymestyn eu tiriogaeth - eisoes wedi bod yn llwyddiant.

Ers 2009, mae sawl un wedi cael cip olwg o wiwer goch ar ochr arall Pont y Borth.

Fis diwethaf, cafodd dwy wiwer ifanc eu dal er mwyn eu harchwilio cyn cael eu rhyddhau ar Stad y Faenol ger Bangor.

'Risg'

Yn ôl Dr Craig Shuttleworth, arbenigwr mewn gwiwerod coch sy'n aelod blaenllaw o'r ymddiriedolaeth natur, mae darganfod dwy wiwer mor ifanc gyda'i gilydd yn brawf bod y creaduriaid wedi dechrau bridio y tu hwnt i Fôn.

Eglurodd Dr Shuttleworth bod y gwaith eisoes wedi cychwyn ar ddiddymu'r gwiwerod lwyd, sy'n cael eu hystyried yn fermin, o ogledd Gwynedd.

"Rydym wedi gwneud lot o waith yn y strip o dir ger y Fenai, sef yn Nhreborth a Stad y Faenol," meddai.

"Mae gennym ychydig o arian i barhau â'r gwaith, ond yn anffodus nid oeddem yn llwyddiannus yn ein cais i gael grant gan Lywodraeth Cymru.

"Mae yna dal risg y bydd y rhai coch yn dal y firws frech gan y rhai llwyd ac felly roeddem wir wedi siomi i beidio cael rhagor o gymorth a byddwn yn parhau i chwilio am arian.

Gwobr

"Mae'n bwysig cael cymaint o rai coch yng ngogledd Gwynedd ag sy'n bosib er mwyn stopio'r rhai llwyd rhag mynd yn ôl dros y bont i Fôn."

Y cynllun yw cael gwared â'r gwiwerod llwyd yn ardal y Penrhyn, Dyffryn Ogwen, draw i'r Carneddau ac i lawr i'r Felinheli a Rhiwlas.

Mae Dr Shuttleworth am i bobl cyn belled â Bethesda mwynhau'r un wefr a phobl Ynys Môn wrth weld y gwiwerod coch yn eu gerddi a pharciau.

"Roeddem wastad eisiau i'r gwiwerod coch fod yn rhan o'r cefndir ar Ynys Môn, ac nid yn unig mewn coedwig heb neb yn eu gweld," ychwanegodd Dr Shuttleworth.

"Rydym am i bobl ddysgu amdanynt dros amser, ac mae'n wych gweld cymaint o bobl yn adeiladu byrddau bwydo yn eu gerddi."

Dywedodd Dr Shuttleworth fod Ymddiriedolaeth Wiwerod Goch Gogledd Cymru am roi gwobr i'r person cyntaf sy'n llwyddo i gael llun o wiwer goch yng Ngwynedd.

Gofynnodd hefyd i unrhyw un sy'n dod ar draws wiwer goch wedi marw i gysylltu â'r ymddiriedolaeth er mwyn iddynt allu defnyddio'r corff i ddysgu mwy am iechyd y boblogaeth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.