Dwyn arian oddi ar ddyn mewn cadair olwyn yng Ngwent

  • 15 Hydref 2012
Michael Gregory
Mae'r heddlu wedi gwneud apêl newydd am dystion

Mae dyn ag afiechyd angheuol gafodd ei fygwth â chyllell gan ddau ddyn tra roedd yn eistedd yn ei gadair olwyn wedi dweud ei fod yn teimlo bod ei ymosodwyr wedi ei guro.

Roedd Michael Gregory, sydd hefyd yn dioddef o sglerosis ymledol, yn teithio ar lannau'r afon Wysg yng Nghasnewydd rhwng 9:45pm a 10:00pm ar Fedi 12 pan ddioddefodd yr ymosodiad.

"Gwnaethon nhw roi braw imi a dwi ddim wedi cael diwrnod da ers i hyn ddigwydd," meddai Mr Gregory.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn chwilio am ddau ddyn Asiaidd yn eu hugeiniau a thua 5 troedfedd 8 modfedd o ran taldra oedd ar gefn dau feic lliw arian.

Apêl newydd

Gwnaeth y ddau, oedd yn gwisgo tracwisgoedd llwyd, ddwyn arian oddi ar Mr Gregory cyn seiclo i gyfeiriad Corporation Road.

Mae'r heddlu wedi gwneud apêl newydd am dystion.

"Rwy'n meddwl fy mod i wedi colli ac maen nhw wedi ennill." meddai Mr Gregory.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Ian Roberts: "Roedd hwn yn drosedd ffiaidd a llwfr.

"Mae dioddefwr wedi'i dargedi a chael ei frawychu gan ddau droseddwr heb barch tuag at bobl fwyaf bregus ein cymdeithas."

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 1010 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.