Clwb pêl-droed Abertawe yn gwneud elw o £14.6m

  • 15 Hydref 2012
Chwaraewyr Abertawe yn dathlu dyrchafiad y clwb i'r Uwchgynghrair ym mis Mai 2011

Mae Clwb Pêl Droed Abertawe ar fin cyhoeddi elw o £14.6 miliwn yn dilyn eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair.

Collodd yr Elyrch £8.3 miliwn yn dilyn y tymor cynt pan lwyddon nhw i ddyrchafu o'r Bencampwriaeth i'r Uwchgynghrair.

Dywed y clwb fod y trawsnewidiad ariannol wedi digwydd er i gostau gweithredu'r clwb, gan gynnwys cyflogau chwaraewyr, ddyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Daeth £5 miliwn o'r incwm ar gyfer y tymor diwethaf o'r iawndal gafodd ei dalu gan glwb Lerpwl wedi i reolwr yr Elyrch, Brendan Rodgers a'i gynorthwywyr mynd i weithio yn Anfield.

Roedd trosiant y clwb yn ystod y flwyddyn hyd at Fai 31 eleni yn £65.2 miliwn.

'Cyfrifon llawn'

Bu bron i Abertawe fynd i'r wal yn 2002 cyn i gonsortiwm lleol brynu'r clwb o'r cyn-berchenog, Tony Petty.

Enillodd yr Elyrch £32 miliwn am gael eu dyrchafu o'r Bencampwriaeth i'r Uwchgynghrair y llynedd.

Dywed datganiad gan y clwb: "Mae Dinas Abertawe yn hapus i gadarnhau elw o £14.6 miliwn yn dilyn eu blwyddyn gyntaf yn yr Uwchgynghrair.

"Bydd y clwb yn rhyddhau eu cyfrifon llawn am y flwyddyn hyd at Fai 31 2012 fydd yn adlewyrchu'r tymor cyntaf llwyddiannus yn yr Uwchgynghrair pan orffennon ni yn yr unfed safle ar ddeg."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.