Asbestos: Dim ysgol i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cwmcarn am y tro

Ysgol Uwchradd Cwmcarn
Mae gan yr ysgol bron i fil o ddisgyblion

Mae rhieni dros 900 o ddisgyblion yn aros i gael clywed pryd fyddan nhw'n cael dychwelyd ar ôl i'r ysgol gau oherwydd asbestos.

Fe wnaeth Cyngor Sir Caerffili benderfynu cau Ysgol Uwchradd Cwmcarn yn hwyr brynhawn dydd Gwener ar ôl i'r deunydd gael ei ddarganfod yn yr adeilad.

Bydd swyddogion addysg, y staff dysgu a pheirianwyr yn trafod y sefyllfa ddydd Llun.

"Rydym yn cydweithio i geisio canfod tarddiad yr asbestos ac edrych ar yr adroddiad dderbyniodd y cyngor brynhawn Gwener," meddai llefarydd

"Mae disgwyl ymateb o fewn 24 awr."

Does dim trefniadau wedi eu gwneud i gynnal gwersi mewn adeilad arall dros dro.

Mae'r cyngor yn ceisio dod o hyd i leoliad ond does dim disgwyl canlyniad yr wythnos yma.

"Mae pob ymdrech yn cael ei wneud ac mae disgyblion blwyddyn 11, 12 ac 13 yn flaenoriaeth," meddai'r llefarydd.

"Rydym yn derbyn bod y sefyllfa yn achosi anghyfleustra ond mae iechyd a lles disgyblion a staff yn flaenoriaeth i ni."

Fe fydd y cyngor yn cysylltu gyda rhieni yn ystod yr wythnos.

Mae gwybodaeth ddiweddara ar wefan y cyngor.