Dyn o'r Barri wedi marw mewn damwain yn Ne Affrica

Achybwyr yn helpu pobl ar ôl i'r cwch droi drosodd yn Hout Bay ger Cape Town
Roedd 39 o bobl ar y cwch yn Hout Bay ger Cape Town

Mae dyn o Fro Morgannwg wedi marw ar ôl i gwch oedd yn cludo 39 o bobl droi drosodd ger Cape Town yn Ne Affrica.

Roedd Peter Hyett, 64 oed, o'r Barri, ei wraig, Suzanne, 63 oed, a'i ferch, Helen, 37 oed, yn gwylio morfilod yng nghwmni nifer o dwristiaid eraill.

Bu farw dyn o Dde Affrica yn y ddamwain ddydd Sadwrn hefyd.

Roedd nifer o bobl o Brydain ymysg y bobl gafodd eu hachub o'r dŵr.

Cafodd un o'r rheini, Lynette Hartman, sy'n dod o Gaerdydd, ei hachub ar ôl tair awr.

Mewn datganiad fe wnaeth y Swyddfa Dramor gadarnhau bod cwch wedi troi drosodd yn Hout Bay ger Cape Town.

"Mae person o Brydain wedi marw yn y digwyddiad.

"Cafodd nifer o bobl o Brydain driniaeth yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad, y mwyafrif erbyn hyn wedi cael eu rhyddhau."

Ychwanegodd fod y Cwnsler Cyffredinol yno wedi mynd i leoliad y ddamwain i gynnig cyngor i unrhyw un sydd ei angen.