Cartrefi symudol: Bygythiad i drigolion gan berchnogion safleoedd

Cartrefi symudol Image copyright bbc
Image caption Mae 3,500 o gartrefi symudol mewn 92 o safleoedd

Mae 'na awgrym bod rhai pobl sy'n byw mewn cartrefi symudol ar draws Cymru yn cael eu bwlio a'u bygwth gan berchnogion y safleoedd.

Mewn arolwg ar gyfer Llais Defnyddwyr Cymru, mae dau o bob tri yn dweud eu bod nhw'n anhapus gyda'r ffordd y mae eu safle yn cael ei reoli.

Y rhesymau am hyn yn ôl Llais Defnyddwyr Cymru yw rhenti uchel, cynnal a chadw annigonol ac atal gwerthu'r cartrefi.

Mae 'na gynlluniau nawr i gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru er mwyn cryfhau hawliau'r rhai sy'n byw mewn parciau.

Drwy Gymru mae tua 5,000 o bobl hyn byw mewn 3,500 o gartrefi symudol a hynny mewn 92 o safleoedd.

Mae'r rhan fwya' ym Mhowys, Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

62%

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Aled Scourfield

Dangosodd arolwg y mudiad, Bywyd Parc, fod 62% wedi cael problemau o ran rheoli safle ers pum mlynedd a 29% wedi cael problemau cynnal a chadw neu ddiogelwch.

Un o'r problemau mwya' oedd atal gwerthiant.

Nid oedd 41% yn teimlo bod pobl ar eu safle yn gallu gwerthu eu cartrefi yn rhydd a heb ymyrraeth os oedden nhw'n dewis gadael.

Y broblem yw bod perchnogion y parciau yn ceisio atal darpar brynwr rhag prynu cartref mewn parc.

Wedyn mae'r perchnogion yn gwneud cynnig i'r trigolion sy' filoedd o bunnau'n is na gwerth gwreiddiol y cartref.

Dywedodd un cwpl wrth y mudiad i gartref symudol roedden nhw wedi ei brynu am £150,000 gael ei werthu i berchennog y safle am £35,000 ddwy flynedd yn ddiweddarach ar ôl i'r perchennog eu hatal rhag gwerthu i gynigwyr allanol dro ar ôl tro.

Mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi dweud bod angen diwygio'r broses werthu a bod angen i unrhyw brawf unigolyn addas a phriodol ar gyfer perchenogion a rheolwyr safleoedd gynnwys archwiliad trylwyr o gefndir troseddol.

Cysylltodd Llais Defnyddwyr â dros 250 o bobl, 22 o awdurdodau lleol, yr heddlu, y sector gwirfoddol a chynrychiolwyr y diwydiant.

Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd yr Aelod Cynullliad Rhyddyfrydol, Peter Black, yn cyflwyno mesur preifat i geisio mynd i'r afael a rhai o'r diffygion presennol.

Fe fydd cael gwared ar hawl perchennog safle i rwystro cartrefu rhag cael eu gwerthu yn un cymal allweddol.

'Gwahaniaeth'

"Rydym o'r farn y gallai'r bil wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau miloedd o bobl," meddai Rhys Evans, Uwch-gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru.

"Mae'r gwaith ymchwil yn dangos bod bygythiad atal gwerthiant yn effeithio ar drigolion cartrefi mewn parciau yng Nghymru ac mae'n rhaid cael gwared ar hyn trwy gael gwared ar feto gweithredwr y safle ar werthiannau cartrefi mewn parciau.

"Hoffem i unrhyw fil oresgyn y rhwystrau presennol sy'n atal sefydliadau rhag cymryd camau gorfodi effeithiol.

"Mae angen i unrhyw drefn orfodi newydd fod yn ddeinamig ac yn gadarn a meddu ar y pwerau cyfreithiol i gosbi perchnogion safle diegwyddor, i amddiffyn trigolion ac i gynnig mwy o gymhelliad i godi safonau'r diwydiant."

Dywedodd Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartref Prydain nad oedd problemau yn y rhan fwya' o safleoedd ac y dylai cynghorau a'r heddlu sicrhau bod y ddeddf yn cael ei dilyn.

"Os oes angen mwy o ddeddfwriaeth, dylid sicrhau nad yw'n cosbi'r perchnogion onest, y mwyafrif llethol yn y diwydiant."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.