Sale 34-33 Gleision

  • 14 Hydref 2012
Danny Cipriani
Ysbrydoliaeth: Danny Cipriani

Roedd golwg o anghrediniaeth ar wynebau'r Gleision ar ddiwedd y gêm gyntaf yng Nghwpan Heineken yn sgil y ffaith eu bod nhw ar y blaen am gymaint o amser yn Stadiwm Dinas Salford.

Ar yr egwyl y sgôr oedd 24-12 i'r Cymry wedi i Alex Cuthbert sgorio tri chais ac roedd cicio Leigh Halpenny'n gant y cant drwy gydol y gêm.

Ond y trobwynt oedd pan ddaeth Willis a Cipriani o Sale ar y cae. Mwy o ddychymyg, mwy o ddycnwch, a mwy o ysbryd.

Sgoriodd Cipriani gais cynta' ei dîm cyn chwarae rhan allweddol yn y ddau gais arall.

Cafodd eilydd y Gleision, Lewis Jones, ei anfon i'r gell gosbi saith munud cyn diwedd y gêm.

Sale yn fuddugol ar ôl colli chwe gêm yn olynol.