Ceisiadau deddf yn 'rhwystro' gwaith cynghorau

  • 14 Hydref 2012
Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae ymgyrchwyr wedi dweud bod y ddeddf yn arf defnyddiol

Mae honiadau fod cynghorau Cymru yn ei chael hi'n anodd ymdopi wrth geisio ymateb i fwy o geisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod gwasanaethau i'r cyhoedd yn dioddef oherwydd cost ymateb.

Mae ffigyrau gafodd eu datgelu ar raglen The Politics Show ar BBC Cymru yn awgrymu bod nifer ceisiadau wedi mwy na dyblu ers 2005.

Yn y flwyddyn honno roedd 3,530 o geisiadau o dan y ddeddf. Erbyn 2011, roedd yr un cynghorau wedi derbyn 9,304.

Mae'r ddeddf yn fodd hwylus o gael gwybodaeth nad yw o reidrwydd ar gael.

£4.5 miliwn

Ond mae'r canllawiau'n glir - ni ddylai cais gostio mwy na £600 i'w ateb ac mae gwaith ymchwil Prifysgol Llundain yn awgrymu bod cost ateb ar gyfartaledd yn £293.

Felly mae hynny'n awgrymu bod y cyfanswm sy'n cael ei wario tua £4.5 miliwn.

Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Llywodraeth Leol na allai cynghorau fforddio talu arian o'r fath yn achos ceisiadau sy'n aml yn "ddiangen".

"Mae angen pob ceiniog ar y cynghorau er mwyn talu am wasanaethau i'r cyhoedd," meddai Steve Thomas.

"Ac mae gen i ofn fod y cynnydd mewn ceisiadau yn tanseilio gallu cynghorau i ddaparu'r gwasanaethau craidd."

Cyngor Merthyr gafodd y nifer uchaf o geisiadau o ran canran o'r boblogaeth.

Yr arfer oedd derbyn tua 10 bob wythnos ond bellach mae'r nifer wedi codi i 60.

Saith o athrawon

Gallai cyfanswm cost ateb felly fod gymaint â £160,000 sy'n cyfateb i gyflogau saith o athrawon newydd.

Mae ymgyrchwyr sydd wedi defnyddio'r ddeddf i gael gwybodaeth o'r farn ei bod yn arf ddefnyddiol.

Bu Garry Willetts o Gyffordd Llandudno, er enghraifft, yn ceisio cael gwybodaeth am gost pont newydd ar gyrion Llandudno.

Gwrthod datgelu wnaeth y cyngor i gychwyn.

Apeliodd i'r Comisiynydd Gwybodaeth benderfynodd orfodi'r cyngor i ddatgelu'r wybodaeth

Profwyd fod Cyngor Conwy wedi gorwario dros £1 miliwn ar y cynllun.

"Oes, mae 'na rai yn camddefnyddio'r ddeddf, " meddai Mr Willetts.

'Yn fwy agored'

"Ond roedd y ddeddf yn hwb aruthrol i bwyso ar awdurdodau cyhoeddus i ddatgelu gwybodaeth i'r trethdalwyr.

"Os yw cyrff cyhoeddus yn barod i fod yn fwy agored, yna mi fydd 'na lai o alw ar y ddeddf."

Mewn datganiad ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd llefarydd fod y llywodraeth wedi ymrwymo i fod "yn agored a thryloyw.

"Mae'r llywodraeth yn cyhoeddi cofnodion Cabinet, penderfyniadau Gweinidogion a manylion am daliadau dros £25,000."