Rhodd o £1.2m i gwmni opera

Cwmni opera
Bydd arian teulu Getty yn golygu perfformio cyfres o operâu cyfoes

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi croesawu rhodd o fwy na £1.2m oddi wrth un o deuloedd mwya' cyfoethog America.

Bydd arian teulu Getty yn golygu perfformio cyfres o operâu cyfoes yn y pedair gwlad am y tro cynta'.

Dywedodd Geraint Talfan Davies, cadeirydd y cwmni, fod y rhodd yn "gyfle anhygoel" i'r cwmni a'i gynulleidfa.

"Yn sicr, bydd mwy o ymdeimlad o antur artistig yn ein rhaglen ni o fewn ychydig o flynyddoedd," meddai.

"Bydd ein cynulleidfa'n cael cyfle i wylio gwaith cyfansoddwyr rhyngwladol."

Yn haf 2013 bydd perfformiad cynta' Wagner Dream gan Jonathan Harvey.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, David Pountney: "Mae'r celfyddydau'n wynebu toriadau cyhoeddus ac mae rhodd breifat fel hon yn hollbwysig i gynnal y gyfres hon.

"Ein gobaith yw chwalu'r myth fod opera fodern yn farwaidd neu'n annealladwy.

"Mae 'na lawer iawn o egni creadigol yn y maes hwn."