Menyw wedi marw ar ôl damwain ym Mhowys

Mae menyw 39 oed wedi marw yn Ysbyty Henffordd ar ôl i gar ei tharo ychydig cyn 7.15pm nos Wener.

Roedd y ddamwain ar y B4355 rhwng Llanandras a Nortyn ym Mhowys.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.