Ymchwiliad i 'farwolaeth anesboniadwy' yng Nghasnewydd

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i gorff dyn 60 oed gael ei ddarganfod mewn tŷ yng Nghasnewydd.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y farwolaeth yn "un anesboniadwy".

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi eu galw i'r tŷ ddwywaith o'r blaen wedi adroddiadau am fwrgleriaeth.

Cafodd plismyn eu galw i Stryd Ailesbury tua 2.20pm brynhawn Mawrth ar ôl i'r corff gael ei ddarganfod.

Mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi eu galw am 4.20am fore Mawrth oherwydd honiad am fwrgleriaeth.

Doedd 'na ddim ateb ac aethon nhw'n ôl tua 8am.

Mae'r achos wedi ei drosglwyddo'n wirfoddol i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.