Apelio am wybodaeth am ddyn o Gaergybi sydd heb gael ei weld ers dyddiau

Eric Driver
Cafodd Eric Driver ei weld tua 1pm ddydd Gwener

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am gymorth y cyhoedd wrth geisio dod o hyd i ddyn 46 oed o Ynys Môn.

Cafodd Eric Owen Driver o Gaergybi ei weld ddiwethaf ar Lain Cyttir yn ardal Kingsland o'r dref tua 1pm ddydd Gwener.

Mae'n 5 troedfedd 10 modfedd o daldra ac o faint canolig.

Mae ganddo wallt byr llwyd ac yn gwisgo sbectol. Y gred yw ei fod yn gwisgo siaced felen fel un criwiau brys, jîns glas a bŵts brown.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn poeni amdano ac annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu ar 101.