Cyhoeddi enw dyn a gafodd ei lofruddio

  • 9 Hydref 2012

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn gafodd ei ddarganfod yn farw mewn tŷ ym Mhorthcawl dros y penwythnos.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw'n trin marwolaeth Paul Trevelyan, 50 oed, fel achos o lofruddiaeth.

Dywedodd yr heddlu fod y farwolaeth wedi digwyddiad mewn tŷ yn ardal Notais.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ tua 12:20am yn oriau mân fore Sul.

Mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a chan ei fod yn yr ysbyty dyw heddweision ddim wedi gallu ei holi eto.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio canolfan yr ymchwiliad ar 01656 306099 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.