Iaith: Rhybudd am brisiau uwch

  • 8 Hydref 2012
Cwmni E.On
Mae llythyr cwmni E.On wedi cael ei ryddhau

Cwmni ynni E.On yw'r cwmni mawr cyntaf i rybuddio y gallai eu prisiau gynyddu yng Nghymru o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.

O dan y ddeddf, mae cwmnïau o'r sector preifat sy'n darparu ynni, trafnidiaeth a gwasanaethau telegyfathrebu yn gorfod darparu gwasanaeth yn ddwyieithog.

Ar hyn o bryd mae'r sector preifat yn gwneud hynny ar sail wirfoddol.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod y cwmni'n ceisio "dychryn" pobl.

Mae llythyr cwmni E.On wedi dweud y gallai costau uwch yn sgil darparu gwasanaethau Cymraeg olygu biliau uwch i gwsmeriaid yng Nghymru.

Fel rhan o'r broses ymgynghori, bydd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn ystyried yr holl ymatebion cyn paratoi adroddiad i Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud penderfyniad terfynol.

'Cyfnod byr'

Mae llythyr at wleidyddion arwyddwyd gan reolwr materion cyhoeddus y cwmni, Sarah Walker, wedi dweud: "Mae'n ymddangos nad yw'r argymhellion (gan Gomisiynydd y Gymraeg) yn caniatáu cyflwyno'r gwasanaethau yma fesul tipyn.

"Yn hytrach y disgwyliad yw, gyda dirwyon i gefnogi hynny, y bydd y gwasanaethau'n cael eu cyflwyno dros gyfnod byr.

"Rydym yn deall ac yn cefnogi nod yr ymgynghoriad i gynyddu'r cyfleoedd i bobl Gymraeg ddefnyddio eu hiaith eu hunain yn eu gwlad eu hunain.

"Rydym hefyd yn ymwybodol, ac yn derbyn, y ffaith y bydd rhaid i ni newid ein dull o weithredu yng Nghymru er mwyn hybu'r iaith Gymraeg.

"Ein pryder yw cost a chymhlethdod yr argymhellion a osodwyd yn yr ymgynghoriad.

'Dychryn'

"Rydym yn credu bod diffyg hyblygrwydd yn y safonau yn golygu y bydd y gost o gydymffurfio yn uchel.

"O ganlyniad mae'n debyg y bydd y costau uwch yn cael eu hadlewyrchu gan gynnydd mewn prisiau i bob cwsmer yng Nghymru."

Ond dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r cwmni'n ceisio dychryn a drysu pobl.

"Mae nifer o gwmnïau ynni eisoes yn darparu rhywfaint o filiau yn Gymraeg.

"Wrth gwrs, cafodd yr un ddadl ei defnyddio yn erbyn arwyddion ffyrdd Cymraeg, ac mae hi'n amlwg yn un gwbl ffals.

"Mae cyfathrebu yn Gymraeg yn rhan hanfodol o ddarparu gwasanaeth yng Nghymru.

'Lefel uchel'

"Cred ein mudiad ni yw bod gan bawb, o ba bynnag gefndir, yr hawl i fyw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg."

Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd ar ran y comisiynydd: "Daeth y cyfnod comisiynu i ben ar Awst 11 a chafwyd mwy na 260 o ymatebion, gan gynnwys un oddi wrth E.On.

"Mae'r comisiynydd yn croesawu'r lefel uchel o ymateb oddi wrth unigolion a mudiadau fydd yn sail awdurdodol i'r adroddiad."

Dywedodd y cwmni: "Rydym hefyd yn bryderus y gallai'r safonau olygu y bydd denu cwsmeriaid newydd yng Nghymru yn llai deniadol i ddarparwyr ynni, ac y bydd hynny'n arwain at lai o ddewis i'r cwsmer.

"Gallai'r costau yma gael eu cwtogi pe bai darparwyr ynni yn medru darparu gweithgareddau yn Gymraeg i ateb galw eu cwsmeriaid."