Swyddi cwmni pizza yn y fantol

  • 8 Hydref 2012
Pizza
Image caption Mae'r cwmni yn cyflogi 312 o bobl ar Lannau Dyfrdwy

Mae tua 450 o swyddi yn y fantol wrth i un o gynhyrchwyr mwyaf bwydydd pizza gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r gweinyddwyr wedi atal y gwaith cynhyrchu yn Paramount Foods ar Lannau Dyfrdwy ac yn cynnal trafodaethau brys gyda'r prif gwsmeriaid, gan gynnwys yr archfarchnadoedd.

Mae'r cwmni yn cyflogi 312 o bobl ar Lannau Dyfrdwy a 138 yn Salford.

Yn ôl y gweinyddwyr, mae trafodaethau yn cael eu cynnal yn y gobaith o ddod o hyd i brynwyr.