Parcio di-dâl ym Mhowys yn ystod cyfnod y Nadolig

Arwydd talu ac arddangos (cyffredinol)

Mae Cyngor Powys wedi penderfynu darparu parcio di-dâl mewn meysydd parcio am 17 diwrnod cyn y Nadolig.

Mi fydd hi'n bosib parcio am ddim ym meysydd parcio'r cyngor rhwng Rhagfyr 8 a dydd Nadolig.

Bwriad y cynllun yw ceisio cefnogi busnesau lleol yn 13 o brif drefi'r sir.

Yn ôl ymchwil byddai'r sir wedi gobeithio casglu incwm o £42,000 drwy godi tal am barcio.

Byddai wedi costio £70,000 am ganiatáu parcio di-dâl drwy gydol mis Rhagfyr.

Yn ôl y cyngor bydd y cynllun yn cael ei ariannu o'r arbedion o £47,000 sy'n cael eu gwneud ar ol i aelodau cabinet y sir benderfynu y bydden nhw yn derbyn lwfans is.

Roedd yr hen weinyddiaeth oedd mewn grym cyn mis Mai wedi cytuno i dderbyn lwfans uwch.