Cynulliad yn cytuno ar fesur ieithoedd swyddogol

Mae'r Cynulliad wedi cytuno ar fesur sy'n cydnabod y Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol y sefydliad.

Fe ddaw'n ddeddf pan gaiff sêl bendith brenhinol, gan roi cyfrfioldeb statudol ar y Cynulliad i drin y ddwy iaith yn gyfartal.

Cafodd y mesur ei gynnig gan Rhodri Glyn Thomas AC yn ei rôl fel Comisiynydd y Cynulliad.

Nid yw'r Cynulliad na'r Comisiwn o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg 2011.

Methodd gwelliant Bethan Jenkins AC o Blaid Cymru oedd yn ymwneud â chyfieithu Trafodion y Cynulliad wrth i 17 bleidleisio o blaid, 36 yn erbyn ac 1 yn ymatal.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC fod gwelliant Ms Jenkins yn cydnabod dilysrwydd y ddwy iaiith yng ngwaith y Cynulliad mewn dau faes penodol - cynnwys deddfau'r Cynulliad a chofnod o graffu gweinidogion.

'Cost'

Roedd yn bwysig fod dwyieithrwydd yn cael ei gydnabod, meddai, ond roedd yn cydnabod na ellid cyfiawnhau "cost ddrudfawr" cyfieithu.

Dywedodd Llyr Huws Gruffydd y dylai'r Cynulliad weithredu fel "corff cwbl ddwyieithog" a bod y gwelliant yn bwysig yn symbolaidd.

Roedd e fel nifer o aelodau eraill, meddai, am allu trafod a gweld cofnod o'r drafodaeth yn ei famiaith.

Pryder Eluned Parrott ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol oedd na fyddai'r Cynulliad yn gosod esiampl i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Roedd cynlluniau iaith, meddai, yn mynnu bod sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu'n ddwyieithog.

Os na fyddai'r Cynulliad yn dilyn hynny yng nghyd-destun ei waith a chofnodion mewnol, fe fyddai hynny'n "ddauwynebog".

Cydymdeimlo

Dywedodd Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr ei bod yn cydymdeimlo â bwriad Ms Jenkins ond yn bryderus am gost cyfieithu.

"Chawson ni erioed wybod amcangyfri o'r gost," meddai.

Mynnodd Cyn Lywydd y Cynulliad, Dafydd Ellis Thomas, ei fod yn cefnogi'r egwyddor ond bod modd cynnwys "y glo mân manwl" o fewn cyllun iaith.

"Y ddofgen fyw sy'n bwysig nid y cofnod marw," meddai.

Wrth ymateb ar ran y comisiwn, dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC y byddai cost trosi rhwng £400,000 a £600,000.

"Beth sy'n bwysig," meddai, "yw cofnod o wybodaeth fydd yn cael ei ddefnyddio."

'Heb ei wireddu'

Cyn y trafod yn y Cynulliad dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Yn y nawdegau un o addewidion datganoli oedd creu llais newydd i Gymru gyda sefydliad a fyddai â grym dros faterion polisi domestig, ond nid hynny yn unig, byddai'n creu math newydd o wleidyddiaeth.

"Yn anffodus, nid ydy'r addewid hwnnw wedi'i wireddu'n llawn. Rydyn ni wedi gweld mai defnydd isel sydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad.

"Gobeithiwn fod ein gwleidyddion yn deall bod disgwyliadau arnyn nhw i roi cydraddoldeb i'r ddwy iaith ac i arwain y ffordd i'r holl sefydliadau eraill yng Nghymru."