Cynllun gwerth £8m i adfer hen lyfrgell yn Abertawe

  • 4 Hydref 2012
Argraffiad arlunydd o'r adeilad wedi iddo gael ei gwblhau
Bydd yr adeilad yn cynnwys man arddangosfa ac fe fydd blaen yr adeilad wedi'i wneud o wydr

Mae cynllun gwerth £8m i adfer hen lyfrgell Abertawe a'i thrawsnewid yn ganolfan ragoriaeth ddylunio wedi dechrau.

Caeodd y llyfrgell yn 2007 a chafodd yr adeilad rhestredig Gradd II ei brynu gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe y llynedd.

Bydd pensaernïaeth yr adeilad gafodd ei agor gan y prif weinidog William Gladstone ym 1887 yn cael ei hatgyweirio.

Erbyn i'r ganolfan agor ym mis Medi 2013 bydd yr adeilad yn cynnwys arddangosfa ac fe fydd blaen yr adeilad wedi'i wneud o wydr.

Dylunio

"Mae'r adeilad yn enghraifft wych o bensaernïaeth o oes Fictoria ac mae gwarchod ei olwg yn allweddol," meddai David Overment, cyfarwyddwr ystadau Prifysgol Fetropolitan Abertawe.

"Bwriad y brifysgol yw adfer yr adeilad mewn ffordd gyfoes gan greu canolfan dysg newydd.

Pan fydd y gwaith yn cael ei gwblhau bydd adran dylunio ddiwydiannol y brifysgol yn symud i'r adeilad.

Dywedodd Nick Bradley, aelod cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous o ran adfer ardal Ffordd Alexandria.

"Mae'r paratoadau ar gyfer cynllun gwrth miliynau o bunnoedd i uwchraddio Oriel Gelf Glynn Vivian eisoes wedi dechrau ac fe fydd y cynllun hwn yn arwain at adnodd o ansawdd rhyngwladol."