Ffatri electroneg: Swyddi 'yn diflannu'

Cerbyd milwrol
Image caption Mae'r cwmni'n cynhyrchu cyfarpar ar gyfer y diwydiant amddiffyn

Mae cwmni AB Connectors wedi cadarnhau bod 45 o swyddi yn y fantol yn eu ffatri yn Abercynon yng Nghymoedd y De.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni sy'n cynhyrchu offer electroneg - a chyfarpar ar gyfer y diwydiant amddiffyn - eu bod wedi dechrau cyfnod o ymgynghori gyda'r gweithwyr.

Ychwanegodd mai "cyflwr y farchnad" oedd y rheswm am y penderfyniad.

Mae'r cwmni yn cyflogi 193 o weithwyr.