Tref Tredegar yn rhoi teyrnged i bencampwr Paralympaidd

Mark Colbourne
Enillodd Mark Colbourne fedal aur a dwy arian yn y Gemau Paralympaidd yn gynharach eleni

Bydd dathliad arbennig yn Nhredegar i ddathlu campau'r seiclwr Mark Colbourne yn y Gemau Paralympaidd ddydd Sadwrn.

Enillodd y seiclwr fedal aur a dwy fedal arian i Brydain yn y Gemau yn Llundain dros yr haf.

Ac fe wnaeth y gŵr 43 oed greu record byd newydd ar ail ddiwrnod Pencampwriaeth Beicio Trac Cenedlaethol ym Manceinion ddydd Iau.

Bydd Colbourne yn rhan o orymdaith ar fws fydd yn teithio drwy Dredegar am 11am ddydd Sadwrn.

Llwyddiant

Enillodd Colbourne Fedal Aur Paralympaidd yn y felodrôm yn y ras 1.3 cilomedr gan osod record byd newydd o 3 munud 53.881 eiliad.

Ond roedd eisoes yn y llyfrau hanes ar ôl ennill medal gyntaf Prydain yn y Gemau Paralympaidd.

Enillodd Fedal Arian yn y ras C1-2-3 yn erbyn y cloc yn y felodrôm ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu.

Ond doedd ei amser, 1 munud 8.471 o eiliadau, ddim yn ddigon i sicrhau'r aur wrth i Li Zhang Yu o China gofnodi record byd o 1 munud 5.021 o eiliadau.

Ac fe ddaeth ei ail fedal arian yn y ras ar y ffordd yn erbyn y cloc (C1).

Yr wythnos hon enillodd Colbourne fedal aur a medal arian ym Mhencampwriaeth Beicio Trac Cenedlaethol ym Manceinion

Damwain Paralgleidio

Y Cymro ddaeth i'r brig yn y ras MC1 200m yn erbyn y cloc mewn 14.177 eiliad. Y record flaenorol oedd 14.875 eiliad.

Dywedodd arweinydd Cyngor Tref Tredegar, Malcolm Cross: "Mae Mark yn haeddu cydnabyddiaeth am ei berfformiadau gwych yn y Gemau Paralympaidd."

Cafodd Colbourne ei anafu'n ddifrifol yn Rhosili, Y Gŵyr, wedi damwain paragleidio ym mis Mai 2009.

Torrodd ei gefn wedi i'w gleider syrthio 12 metr (40 troedfedd) i'r ddaear.

Yn ei 20au roedd yn chwarae pêl-foli dros Gymru.