Gŵyl yn cofio cyfansoddwr enwog

  • 22 Medi 2012
Cellist Julian Lloyd Webber Image copyright Getty Images
Image caption Bu'r cerddor Julian Lloyd Webber yn perfformio ar y soddgrwth yn seremoni gloi Gemau Olympaidd Llundain 2012

Fe fydd cerddoriion clasurol blaenllaw yn ymgynnull i gofio'r cyfansoddwr William Mathias i ddathlu 40fed pen-blwydd yr ŵyl a sefydlodd.

Mae Julian Lloyd Webber a'r King's Singers ymhlith y rhai fydd yn perfformio yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru sy'n dechrau yn Llanelwy ddydd Sadwrn.

Bu farw'r Athro William Mathias, oedd yn enedigol o Hendy-gwyn ar Daf, 20 mlynedd yn ôl.

Bydd cyngerdd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ddydd Sadwrn nesaf yn dathlu ei fywyd a'i waith.

Fe fydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys perfformiadau gan y pianydd o Ffrainc, Pascal Roge a phedwarawd Chilingirian.

Bydd perfformiad cyntaf hefyd gan gor cymunedol newydd o stad Parc Peulwys yn Llysfaen ger Bae Colwyn.

Adroddiad Rhian Price

Ddydd Sul bydd y perfformiad cyntaf yn y byd o waith newyd gan Karl Jenkins a gomisiynwyd o nodi pen-blwydd yr ŵyl yn 40 oed, a bydd y darn hefyd yn dathlu statws dinas Llanelwy.

Yn 1972, dewisodd William Mathias gadeirlan Llanelwy fel cartref yr ŵyl gan ei fod yn credu mai yno oedd y safle acwstig gorau ar gyfer cerddoriaeth glasurol.

Dywedodd cyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Ann Atkinson: "Cadeirlan Llanelwy yw'r amgylchedd acwstig gorau i ddangos yr arlwy dalentog dros ben sydd gennym.

"Mae'r cyfuniad o garreg a phren yn creu rhywbeth hudol rhywsut."

Mae Ms Atkinson yn perfformio fel mezzo soprano ei hun, ac ychwanegodd: "Rwyf wedi perfformio yn neuadd Tŷ Opera Sydney, ac er bod acwstig gwych yno, rhaid i mi ddweud bod cadeirlan Llanelwy yn well yn acwstig."

Bu farw'r Athro Mathias yn 1992 yn 57 oed, ac mae wedi ei gladdu yn y gadeirlan.

Bydd yr ŵyl yn digwydd rhwng Medi 22 a 29.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC