Tân: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth

Kim Buckley, Kayleigh Buckley and Kimberley Buckley Image copyright Gwent Police
Image caption Bu farw tair cenhedlaeth o'r teulu Buckley yn y tân

Mae dyn 28 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiadau o lofruddiaeth yn dilyn y tân yng Nghwmbrân a laddodd tair cenhedlaeth o'r un teulu.

Bu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a'i hwyres chwe mis oed Kimberley yn y tân ar stad Coed Efa ddydd Mawrth.

Ymddangosodd Carl Mills gerbron ynadon Caerffili fore Sadwrn, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa. Bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun.

Image copyright Other
Image caption Mae Carl Mills yn wynebu tri chyhuddiad o lofruddiaeth

Cafodd diffoddwyr eu galw i'r tân ddydd Mawrth, a dywedodd yr heddlu bod cymdogion wedi ymdrechu'n ddewr i achub y teulu ond bod y fflamau'n rhy danbaid.

Dywedodd Nicola Rees o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Wedi ystyried y dystiolaeth a gasglwyd hyd yma gan Heddlu Gwent, rydym wedi penderfynu bod digon o dystiolaeth, a'i bod o fudd i'r cyhoedd, ein bod yn cyhuddo Carl Anthony Mills o dri chyhuddiad o lofruddiaeth."

Ychwanegodd y Ditectif Prif-Arolygydd Pete Jones o Heddlu Gwent: "Mae ein meddyliau o hyd gyda theulu Kim, Kayleigh a Kimberley yn y cyfnod anodd yma."

Mae'r heddlu wedi cyfeirio'r achos at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu gan fod plismyn wedi cael eu galw i'r tŷ ar sawl achlysur yn y gorffennol.

Straeon perthnasol