Cwmbrân: Comisiwn i ymchwilio

  • 21 Medi 2012
Kim Buckley, Kayleigh Buckley a Kimberley Buckley
Bu farw tair cenhedlaeth o deulu Buckley yn y tân

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr heddlu yn ymchwilio i'r cysylltiad â fu rhwng aelodau o Heddlu Gwent ac aelodau teulu cyn y tân a laddodd tri o bobl yng Nghwmbrân ddydd Mawrth.

Fe wnaeth tair cenhedlaeth o'r un teulu, mam, merch ac wyres ddychwelyd i'r tŷ nos Lun.

Bu farw Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a'i hwyres chwe mis oed Kimberley ar stad Coed Efa yn y dref.

Mae'r heddlu yn parhau i holi dyn 27 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dan am 3.30 am ddydd Mawrth.

Heddlu Gwent wnaeth gyfeirio'r mater i'r Comisiwn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn eu bod wedi penderfynu cynnal ymchwiliad o'r amgylchiadau.

Dywedodd Tom Davies Comisiynydd y Comisiwn: Cafodd y mater ei gyfeirio at y Comisiwn ar ddydd Iau, ac oherwydd difrifoldeb y digwyddiad fe benderfynwyd y bod yn rhaid i ymchwiliad annibynnol archwilio cyswllt Heddlu Gwent gyda'r teulu.

Nos Wener yng Nghwmbrân fe fydd gwylnos yn cael ei gynnal yn yr eglwys leol er cof am y teulu.