Tân: Gweithwyr yn gadael ffatri

  • 20 Medi 2012
Real Crisps factory on fire - image Mark Payne Image copyright Mark Payne
Image caption Roedd ffatri Real Crisps yn wenfflam erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd (Llun Mark Payne)

Mae gweithwyr wedi gorfod gadael ffatri yn sir Caerffili oherwydd tân mawr yno.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ffatri gwneud creision ar Stad Ddiwydiannol Penyfan yng Nghrymlyn am 3am fore Iau.

Fe gafodd wyth injan dân eu gyrru yno - rhai wedi teithio o Bontypridd a Chaerdydd - ond erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd tri chwarter yr adeilad eisoes ar dân.

Gan fod y ffatri'n defnyddio olew a braster i wneud eu cynnyrch, fe ledodd y tân yn gyflym, a'r amcangyfrif yw y bydd hi'n rai oriau cyn y bydd y tân o dan reolaeth yn gyfan gwbl.

Mae dros hanner cant o ddiffoddwyr yno, a'r flaenoriaeth yw ceisio sicrhau nad yw'r tân yn lledu i ffatrïoedd eraill cyfagos.

Oherwydd natur y deunyddiau yn y ffatri, mae tîm arbenigol o'r gwasanaeth ambiwlans sy'n delio gyda chemegau ar y safle, ac mae pryder am y tanciau olew mawr sydd yno a'r angen i'w cadw rhag y fflamau.

Mae asiantaeth iechyd amgylcheddol hefyd ar y safle er mwyn cynnig cyngor oherwydd natur y tanciau olew.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y shifft dros nos yn gweithio yno ar y pryd, ac wedi gorfod gadael yr adeilad.

Does neb wedi cael anaf oherwydd y tân.

Mae'r tân yn dal i losgi, ac mae trigolion sy'n byw gerllaw wedi cael cyngor i gadw eu ffenestri ar gau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.