Criwiau argyfwng i rannu adeilad

  • 18 Medi 2012
Ambulance Image copyright BBC news grab
Image caption Mae'r gwasanaethau tân ac ambiwlans am agor adeilad newydd ar y cyd ger Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae'r gwasanaethau tân ac ambiwlans yn paratoi cynlluniau i godi adeilad i'r ddau wasanaeth rhannu yn Wrecsam.

Eisoes mae'r heddlu a'r Gwasanaeth Tân yn edrych ar rannu adnoddau yng ngogledd Cymru wrth iddyn nhw geisio ymdopi gyda thoriadau i'w cyllidebau a gwella adnoddau.

Mae tir ger Ysbyty Maelor Wrecsam eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer adeilad newydd.

Mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn manylion am y cynlluniau ger Ffordd Croesnewydd, ac yn aros am fwy o fanylion cyn gwneud penderfyniad.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y gwasanaeth ambiwlans gynlluniau i gau gorsafoedd llai yn Sir y Fflint a chodi un adeiladu newydd gwerth £2.7 miliwn.

Yn ystod gaeaf y llynedd fe ddechreuodd y Gwasanaeth Tân weithio gyda Heddlu'r Gogledd er mwyn ceisio uwchraddio adnoddau yng Ngwynedd drwy rannu adeiladau er mwyn lleihau costau.

Mae'r gwasanaethau brys ymhlith nifer o wasanaethau cyhoeddus sy'n ceisio gwneud arbedion o filiynau o bunnoedd fel rhan o fesurau llymder llywodraeth y DU.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.