Tân mewn ffatri deils

  • 15 Medi 2012

Mae'r Gwasanaeth Tân wedi bod yn o ddiffodd tân ar safle ffatri deils yn ardal Wrecsam.

Fe gafodd swyddogion eu galw i gwmni teils Dennis Ruabon yn Rhiwabon am 7.45am ddydd Sadwrn.

Cafodd uned amddiffyn yr amgylchedd hefyd eu galw oherwydd bryderon bod asbestos yn bresennol.

Roedd y tân mewn caban symudol.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru fod y sefyllfa dan reolaeth erbyn 9.30 pm.

Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi ei anafu.