Beiciwr modur wedi marw

Mae beiciwr modur wedi marw mewn damwain ar yr A4212 yng Nghapel Celyn ger Y Bala.

Roedd y ddamwain am 4.20pm brynhawn Gwener a bu farw'r beiciwr 49 oed yn y fan a'r lle.

Cafodd y ffordd ei chau tan 8.30pm.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.