Cymru 0-2 Gwlad Belg

  • 7 Medi 2012
Chris Coleman Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Chris Coleman yn paratoi am ddwy gêm gystadleuol gyntaf fel rheolwr Cymru

Roedd gêm agoriadol Cymru yn un anodd beth bynnag wrth i dîm Chris Coleman groesawu ser fel Vincent Kompany, Marouane Fellaini ac Eden Hazard i Stadiwm Dinas Caerdydd, ond fe aeth y dasg dipyn anoddach cyn y gic gyntaf hyd yn oed.

Dyna pryd y cyhoeddwyd na fyddai Joe Allen yn medru chwarae oherwydd salwch, gan amddifadu Cymru o un o'u sêr mwyaf eu hunain.

A doedd pethau fawr gwell pan ddechreuodd y chwarae. Wedi pum munud ar hugain o chwarae, roedd Simon Church a Gareth Bale wedi cael ergydion at gôl yr ymwelwyr, ond yna fe ddaeth eiliad wirion gan James Collins.

Trosedd broffesiynol yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio ond doedd dim byd proffesiynol am dacl wyllt Collins ar Guillaume Gillet.

Y canlyniad oedd cerdyn coch i Collins a Chymru'n gorfod chwarae am dros awr gyda 10 dyn ac roedd rhwystredigaeth gweddill y tîm yn amlwg.

Am y chwarter awr cyntaf o hynny, fe lwyddodd amddiffyn Cymru i wrthsefyll ton ar ôl ton o ymosodiadau ac ergydion gan yr ymwelwyr.

Ond yna bedwar munud cyn yr egwyl fe ddaeth y gôl anochel wrth i Vincent Kompany benio croesiad Dries Mertens i gefn y rhwyd.

Wedi'r egwyl roedd hi'n ymddangos y byddai angen cyfrifianell i gyfri goliau'r ymwelwyr, ond er gwaethaf ergydion di-ri, roedd amddiffyn Cymru yn llwyddo i rwystro Gwlad Belg.....tan wyth munud cyn y diwedd.

Amddiffynwr arall sgoriodd yr ail i Wlad Belg - Jan Vertonghen o glwb Spurs yn ergydio i gornel isa'r rhwyd o'r tu allan i'r cwrt cosbi.

O dan yr amgylchiadau, doedd y canlyniad ddim yn un trychinebus, ond dyma'r dechrau gwaethaf posib i ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014.

Yn sicr mae'r pwysau ar dîm Chris Coleman i gael triphwynt yn Serbia nos Fawrth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.