Medal arall i Mark Colbourne

Mark Colbourne
Dyma ail fedal arian Mark Colbourne yn y Gemau a'i drydedd ar ôl cipio aur hefyd

Mae'r seiclwr 43 oed o Gymru, Mark Colbourne, wedi ennill medal arian arall i Brydain yn y Gemau Paralympaidd.

Dyma drydedd fedal y dyn o Dredegar wedi iddo ennill medal aur ac arian yn gynharach yn y gemau.

Roedd yn ail yn y ras ar y ffordd yn erbyn y cloc (C1), 12.94 eiliad y tu ôl i'r enillydd Michael Teuber o'r Almaen.

Y Cymro oedd wedi ennill medal gyntaf Prydain yn y Gemau Paralympaidd.

Torrodd record Baralympaidd y byd wrth ennill y ras 1.3 cilomedr unigol yn y felodrôm ddydd Iau mewn 3:53.881.

Colbourne hefyd wnaeth sicrhau medal gyntaf Prydain yn y gemau ddydd Iau wrth ennill medal arian yn y ras C1-2-3 yn erbyn y cloc.

'Gorchest'

Wrth ei longyfarch, dywedodd cadeirydd Chwaraeon Cymru yr Athro Laura McAllister: "Mae'n orchest anhygoel i Mark hawlio'r fedal arian ac ychwanegu at ei gasgliad o fedalau. Rydym yn hapus dros ben.

"Cyfrannodd yn sylweddol at gyfanswm Cymru o 10 o fedalau yn y gemau. O ystyried y safon eithriadol o gystadlu yn y gemau, rydym yn hapus iawn hyd yma ac yn gobeithio am fwy o lwyddiant."

Ychwanegodd Jon Morgan, prif weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru: "Mae Mark yn broffesiynol i'r carn ac rydym wrth ein bodd drosto.

"Bydd y ras ffordd yfory ac efallai y bydd mwy o ddathlu iddo fe ac i Gymru.

"Rhaid i mi gydnabod rôl hyfforddwr gwreiddiol Mark yn Chwaraeon Anabledd Cymru, Neil Smith, wrth adnabod a meithrin ei botensial.

"Mae gennym ni ddyled enfawr i Neil a hyfforddwyr eraill oherwydd eu gwaith tu ôl i'r llenni."