Medal efydd i Olivia Breen a Jenny McLoughlin yn y rasg gyfnewid

  • 4 Medi 2012
Jenny Mcloughlin, Katrina Hart, Olivia Breen a Bethany Woodward enillodd fedal efydd yn y ras 4x100m Image copyright Getty Images
Image caption Jenny Mcloughlin, Katrina Hart, Olivia Breen a Bethany Woodward enillodd fedal efydd yn y ras 4x100m

Mae 'na fedalau efydd wedi dod i Gymru nos Fawrth.

Llwyddodd dwy Gymraes i ychwanegu at nifer medalau Cymru yn y ras cyfnewid 4x100m.

Roedd Jenny McLoughlin ac Olivia Breen yn cystadlu yn y rownd derfynol gyda Bethany Woodward a Katrina Hart.

Fe ddaethon nhw yn drydydd gan sicrhau'r efydd y tu ôl i Rwsia a China.

Amser Prydain oedd 56.08 eiliad gyda Rwsia yn fuddugol mewn 54.86 eiliad a China 55.65 eiliad yn cipio'r arian.

Ond unwaith eto, fel y digwyddodd gyda ras cyfnewid yn y Gemau Olympaidd, roedd 'na gwestiwn a gafodd y baton ei drosglwyddo o fewn yr ardal gywir a'i pheidio.

Mae'r ymdrech yma yn golygu bod gan wyth medal yn y Gemau hyd yma.

Mae'r corff sy'n llywodraethu chwaraeon yng Nghymru, Chwaraeon Cymru, wedi gosod nod o o leiaf 14 medal.

Straeon perthnasol