Abertawe yn croesawu'r Fflam Paralympaidd

  • 28 Awst 2012
Simon Richardson yn cynnau'r fflam
Wedi i'r Grochan gael ei thanio yng Nghaerdydd mae'n ymweld ag Abertawe

Wedi diwrnod o ddathliadau yng Nghaerdydd mae rhan o'r Fflam y Gemau Paralympaidd yn Abertawe.

Mae'r Fflam, gafodd ei chynnau ar gopa'r Wyddfa'r wythnos ddiwethaf, yn cyrraedd y ganolfan ddinesig yn Abertawe am 12.30pm ddydd Mawrth.

Yn ystod y prynhawn mae'n cyrraedd Clwb Rygbi Dyfnant, Pwll Nofio Rhyngwladol Cymru a Chanolfan Hamdden LC.

Daw'r dathliadau ddiwrnod cyn y bydd y Fflam yn cyrraedd Llundain ar gyfer y Seremoni Agoriadol nos Fercher.

Yn Abertawe mae athletwyr anabl clybiau chwaraeon y ddinas yn cludo'r Fflam mewn taith gyfnewid ar hyd Princess Way i'r ganolfan hamdden drwy Sgwâr y Castell o 4pm ymlaen.

Mae nifer o ddigwyddiadau yn y ddinas i godi ymwybyddiaeth o chwaraeon Paralympaidd.

Hyfforddi

Dau sy'n hyfforddi yn Abertawe ac sy'n gobeithio am fedalau yn y gemau yw Ellie Simmonds, sy'n nofio, a Paul Karabadak sy'n chwarae tennis bwrdd.

Cyn y gemau mae timau Paralympaidd Mecsico a Seland Newydd wedi bod yn hyfforddi yn Abertawe, yn defnyddio'r cyfleusterau ym Mhrifysgol Abertawe, y Pentref Chwaraeon ar Lôn Sgeti a'r Pwll Nofio Rhyngwladol.

"Roedd y Gemau Olympaidd yn Llundain yn ddigwyddiad chwaraeon gwych a gobeithio y bydd y Gemau Paralympaidd yn gymwys yr un peth," meddai Nick Bradley, aelod cabinet Cyngor Abertawe sydd â chyfrifoldeb am Adfywio.

"Bydd gweld y Fflam yn Abertawe yn gyfle i'r trigolion lleol deimlo'n rhan o ddigwyddiad mor enfawr.

"Dwi'n annog pobl i ddod allan i gefnogi."

Ffyrdd

Mae Princess Way a Heol Caer ar gau o am 4pm am ryw 20 munud ac mae posibiliadau y bydd oedi ar Heol Ystumllwynarth.

O Gaerdydd aeth gweddill y Fflam i Sir Buckingham ac i Stoke Mandeville ar gyfer taith gyfnewid 24 awr oddi yno i'r Stadiwm Olympaidd.

Stoke Mandeville yw cartref ysbrydol y mudiad Paralympaidd.

Bydd nifer yn cludo'r Fflam drwy Sir Buckingham, Sir Hertford a Llundain, gan gynnwys David Roberts, y nofiwr Paralympaidd, fydd yn ei chludo dros Tower Bridge.

Yn Harrow mae'r Fflam yn cael ei chludo gan Emma Bird o Lanelli, Lisa Morgan o Bont-y-clun a Matthew a Theresa Bailey o Aberdâr.

Wendy Thomas o Abertawe sy'n cludo'r fflam yn Tower Hamlets.