Prentisiaethau: 'Angen diffiniad'

  • 28 Awst 2012
Simon Thomas AC
Image caption Simon Thomas: Argyfwng yn golygu ei bod yn anoddach i bobl ifanc ddod o hyd i waith.

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddiffiniad cliriach o beth yw prentisiaeth er mwyn helpu cyflogwyr a phrentisiaid ddeall y cymwysterau'n well.

Dywedodd fod oriau hyfforddiant mewn swydd ar gyfer prentisiaid yng Nghymru fel isafswm yn amrywio o 184 awr i 644 awr.

Mae llefarydd addysg y blaid, Simon Thomas, wedi dweud y bydd gwell dealltwriaeth rhwng cyflogwyr a phrentisiaid yn helpu'r ddwy ochr i wybod beth sy'n ddisgwyliedig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod y mis hwn wedi buddsoddi £896,000 a chreu 70 o brentisiaethau yn y gogledd-orllewin.

Bydd hyn yn arwain at gyfleoedd yn y sector ynni adnewyddol.

'Amrywiol'

Dywedodd Mr Thomas: "Ar hyn o bryd, nid oes digon o fyfyrwyr yn dewis prentisiaeth fel llwybr i mewn i waith ac mae hyn yn bennaf oherwydd y meini prawf amrywiol.

"Mae cyflogwyr eisiau gwybod beth sy'n cael ei gyflawni wrth gyflogi prentisiaid ac ar hyn o bryd nid yw hyn yn bosib.

"Mae gwahaniaeth mawr rhwng profiad unigolyn sydd wedi treulio cwpl o wythnosau a llai na 200 awr mewn hyfforddiant mewn swydd, a rhywun sydd wedi treulio tair blynedd a bron 700 awr."

Dywedodd fod yr argyfwng economaidd yn golygu ei bod yn anoddach i bobl ifanc ddod o hyd i waith.

Felly roedd yn hanfodol, meddai, fod y llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w helpu i ennill y sgiliau a'r profiadau hanfodol ar gyfer y gweithle.

"Gadewch i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl ifanc i mewn i waith - a sicrhau bod gweithwyr Cymru gyda'r sgiliau ar gyfer gweithle bywiog, modern."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.