Cymraes yn gapten y merched Paralympaidd

  • 26 Awst 2012
Tracey Hinton and thrower Stephen Miller
Tracey Hinton a Stephen Miller fydd capteiniaid merched a dynion Prydain yn y Gemau Paralympaidd

Mae tîm athletau Prydain wedi enwi eu capteiniaid ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Llundain.

Tracey Hinton o Gaerdydd fydd capten y merched, a Stephen Miller fydd capten y dynion.

Rhwng y ddau ohonyn nhw, maen nhw wedi cystadlu mewn naw o Gemau Paralympaidd.

Bydd Hinton yn cystadlu yn y 100m a 200m, ac fe fydd Miller yn taflu'r pastwn.

Cafodd y ddau eu cyflwyno i'r tîm o 48 o athletwyr yn eu gwersyll hyfforddi yn Portugal.

Roedd Prydain yn 18fed yn y tabl medalau athletau yn Beijing yn 2008, ond y nod yn Llundain yw gorffen yn 8fed, gyda tharged o 23 o fedalau gan gynnwys 5-8 medal aur.

"Ers y cyhoeddiad mai yn Llundain y byddai Gemau 2012, fy uchelgais - yn wir fy obsesiwn - yn cynrychioli Paralympics GB," meddai Hinton.

Ers iddi gystadlu am y tro cyntaf yn Barcelona yn 1992, mae Hinton wedi ennill tair medal arian a thair medal efydd. Yn Beijing, roedd yn bedwerdydd yn y T11 200m, a chweched yn y 100m.

"Bydd y wlad yn ein cefnogi ennill neu golli, ond gadewch i ni wneud rhywbeth i'w cyffroi; gadewch i ni ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athletwyr fel y gwnaeth Mo (Farah) a Jess (Ennis) yn y Gemau Olympaidd."