Canfod bachgen 10 oedd ar goll ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae Heddlu De Cymru wedi canfod bachgen 10 oed oedd ar goll yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mercher.

Derbyniodd yr heddlu adroddiadau fod Kyl Boaler ar goll tua 3:30pm ddydd Mercher.

Cafodd ei weld yn chwarae ar gastell neidio ym Mharc Gwledig Bryngarw cyn iddo fynd ar goll.

Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i ofalydd Kyle a staff sy'n gweithio yn y parc chwilio amdano.

Bu 10 aelod o Dîm achub y Bannau ymysg y rheiny oedd yn chwilio am Kyl tan iddo gael ei ganfod yn ddiogel nos Fercher.