Brady: Mam Keith Bennett wedi marw

  • 18 Awst 2012
Winnie Johnson
Brwydrodd Winnie Johnson am flynyddoedd i ganfod man claddu ei mab

Mae mam un o'r plant a laddwyd gan lofruddwyr y Moors, Keith Bennett, wedi marw.

Cafodd Winnie Johnson, 78, frwydr hir i gael llofrudd ei mab, Ian Brady, i ddatgelu lle yr oedd wedi ei gladdu.

Cafodd Keith ei herwgipio pan yn 12 oed ar ei ffordd i ymweld â'i nain ym Manceinion ar Fehefin 16, 1964.

Dywedodd cyfreithiwr Mrs Johnson, John Ainley, ei bod wedi marw nos Wener gyda'i theulu o'i chwmpas.

Bu'n byw mewn hosbis ers blynyddoedd oherwydd brwydr hir yn erbyn canser.

Daw'r newyddion am ei marwolaeth wrth i heddlu ystyried honiadau bod Brady wedi datgelu gwybodaeth am fan claddu Keith.

Maen nhw ystyried y posibilrwydd bod Brady wedi rhoi manylion i'w eiriolwr iechyd meddwl Jackie Powell o Sir Gaerfyrddin.

'Creulon ac eironig'

Mae'r BBC ar ddeall na chafodd Mrs Johnson wybod am y datblygiadau diweddaraf.

Cafodd Brady a'i gariad Myra Hindley eu carcharu am lofruddio pum plentyn rhwng 1963 ac 1965.

Disgrifiodd cyn gyfreithiwr Mrs Johnson, David Kirwan, ei marwolaeth fel "tro creulon ac eironig".

Ychwanegodd: "Gwnaeth hi byth roi'r ffidil yn y ty...hi oedd mam Keith."

Dywedodd hefyd ei fod yn falch y byddai teulu Mrs Johnson yn parhau yn yr ymdrech i ganfod Keith.