Talcen caled i fowlwyr Morgannwg

Logo Morgannwg

Mae batwyr Essex wedi cael diwrnod ardderchog yn y gêm yn erbyn Morgannwg yn Colchester yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Gwener.

Sgoriodd Essex y cyfanswm anferthol o 520 am 9 wiced gan gynnwys cannoedd gan Tom Westley ac Owais Shah mewn ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 438 rhediad.

Ar ôl i gapten Essex, James Foster, gau'r batiad sgoriodd Morgannwg 16 heb goli wiced cyn diwedd chwarae'r dydd.

Daeth unig lwyddiant Morgannwg yn ystod sesiwn y bore pan ddisgynnodd wiced Mickleburgh am 74, ond aeth Westley a Shah o nerth i nerth gan gynnal partneriaeth o 191 rhediad cyn i Robert Croft ei faglu coes o flaen wiced am 185.

Sgoriodd Shah 138 rhediad ond llwyddodd bowlwyr Morgannwg gipio'r saith wiced nesaf am ddim ond 150 rhediad.

Bowliwr gorau'r ymwelwyr oedd Robert Croft a gipiodd bum wiced am 135 rhediad oddi ar 30.5 pelawd.

Roedd rhai yn darogan y bydd y llain yn dirywio cyn diwedd y pedwar diwrnod - bydd rhaid i hynny ddigwydd er mwyn cael canlyniad positif i'r naill dîm neu'r llall yn Colchester.

Mae Morgannwg yn wythfed yn y tabl, 20 pwynt y tu ôl i Essex, sy'n bumed.

Swydd Essex v Morgannwg (Trydydd Diwrnod - amser cinio)

Morgannwg: (Batiad cyntaf): 438 (Walters 159, Bragg 54, Wagg 54)

Morgannwg: (Ail fatiad): 16-0

Essex:(Batiad cyntaf): 520-9(Westley 18, Shah 138, Croft 5-135

)