Lladron yn dwyn rhan o do ysgol gynradd yn Y Rhondda

Mae lladron wedi dwyn rhan o do ysgol gynradd yng nghwm Rhondda dros nos.

Y gred ydi bod y lladron wedi achosi gwerth £20,000 o ddifrod.

Dyma'r eilwaith i Ysgol Tonypandy fod yn darged i ladron o fewn wythnos.

Yr wythnos diwethaf cafodd chwe throedfedd o blwm ei ddwyn o'r to yn ogystal â rhai teils to.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf bod gweddill y plwm a'r teils wedi eu dwyn.

"Does 'na ddim to yno erbyn hyn," meddai.

"Mae'r ysgol yn gwbl agored i'r elfennau."

Mae'r lladrad yn cael effaith ar ddau ddosbarth yn yr ysgol.

Difrod i gyfrifiaduron

Mae'r heddlu yn ymchwilio.

"Roedd y lladron yma yn gwybod be oedden nhw'n wneud," eglurodd y cynghorydd a chadeirydd y llywodraethwyr, Craig Middle.

"Mae'r heddlu yn chwilio ar deledu cylch cyfyng ac mae modd eu gweld ar yr iard ond nid ar y to."

Cafodd yr heddlu wybod am y digwyddiad tua 4.30pm.

Cafodd llyfrau a chyfrifiaduron eu difrodi.

Mae 'na orchudd dros dro wedi ei osod ar draws yr ystafelloedd.

"Maen nhw'n gwerthu'r plwm a'r teils am arian bach ac i be?" meddai Mr Middle.

"Dydi'r difrod sy'n cael ei wneud yn ddim o'i gymharu â'r hyn maen nhw'n mynd i'w gael."

Fe fydd gwaith yn cael ei wneud ar yr adeilad cyn i'r disgyblion ddychwelyd yno fis nesaf."