Cwmni newydd i redeg llinell reilffordd y gogledd

Trên Virgin
Roedd cwmni Virgin wedi rhedeg y gwasanaeth er 1997

Mae cwmni Virgin wedi colli eu cytundeb i gynnal gwasanaeth trenau rhwng Gogledd Cymru a Llundain.

Gweithredwr mwyaf y Deyrnas Unedig, cwmni FirstGroup sydd wedi ennill y cytundeb i redeg gwasanaeth y brif linell gorllewin Prydain tan 2026.

Mae'r gwasanaeth o Gaergybi yn teithio ar hyd y gogledd cyn ymuno â'r brif linell yn Crewe.

Roedd cwmni Virgin wedi rhedeg y gwasanaeth er 1997.

Ond bydd FirstGroup yn cymryd yr awenau ar Ragfyr 9 eleni.

Dywedodd y cwmni y byddan nhw'n cynnig "gwelliannau sylweddol o ran ansawdd ac amlder y gwasanaeth".

Trenau hirach

Ond mae undebau wedi rhybuddio y bydd swyddi yn cael eu colli ac y bydd prisiau teithio yn codi.

Dywedodd llefarydd FirstGroup, Richard Parry, fod y cwmni wedi ymrwymo i wella'r gwasanaeth rhwng Gogledd Cymru a Llundain.

Byddai hyn yn cynnwys ehangu gwasanaethau i Fangor o Gaer a defnyddio trenau hirach.

Fe fydd gwasanaethau nos ychwanegol hefyd ar gael o 2016.

Ychwanegodd fod FirstGroup yn bwriadu cadw'r gwasanaeth rhwng Wrecsam a gorsaf Euston yn Llundain lle mae un trên yn teithio i'r naill gyfeiriad a'r llall bob diwrnod.

Er bod FirstGroup wedi addo cynnal gwasanaethau uniongyrchol rhwng yr Amwythig, Telford a Llundain, dywedodd Mr Parry nad oedd unrhyw gynlluniau i ehangu'r gwasanaeth i Gobowen, Y Waun, Rhiwabon a Wrecsam ar hyn o bryd.