Criwiau'n delio gyda dwy ddamwain ffordd

  • 14 Awst 2012

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i ddwy ddamwain ffordd fore dydd Mawrth.

Galwyd y criw cynta' o Aberystwyth tua 7:45am wedi adroddiadau fod car wedi taro yn erbyn coeden ger y B4340 yn Rhydyfelin.

Bu'n rhaid defnyddio offer arbennig i ryddhau dyn o'r cerbyd.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.

Does dim manylion am ei gyflwr ar hyn o bryd.

Gadawodd y criw'r safle am 9:40am.

Yn y cyfamser, cafodd criwiau o Dregaron a Llanbed eu galw am 8:56am, wedi i lori daro yn erbyn car yn Llanddewi Brefi.

Eto bu'n rhaid defnyddio offer arbennig i ryddhau'r dyn o'r cerbyd.