Dipyn o Dŵ - dydd Sadwrn

  • 11 Awst 2012
Elin ac Elin
Y ddwy Elin a fu'n dygymod a hen grintach yn y 'Steddfod

Os cafodd Bardd yr Haf bleser o'r murmuron "sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan" mi gefais innau wythnos hafaidd 'rhwng dwy Elin' yn Llandŵ.

Ac yr oedd o leiaf dair Elin arall o nghwmpas i yn swyddfa'r BBC ar y maes.

Ydi, mae Elin yn enw cyffredin iawn o fewn y BBC.

Ydi o'n gymhwyster swydd wn i ddim.

Ond ta waeth am hynny, diolch i'r ddwy, ar fy ne a'm haswy law, am ddygymod mor raslon â hen grintach.

I led ddyfynnu R Williams -Parry eto; yr oedd eu cwmni rhadlon yn, "bleser i ŵr blin" yn Llandŵ.

Lluoedd Steddfodol

T James Jones
Dyma oedd 'Steddfod ola' Jim Parc Nest fel Archdderwydd

Bu'n wythnos o amrywiaeth tywydd a phrofiadau a rhaid i mi gyfaddef i mi fod yn un o'r pechaduriaid a ddihangodd unwaith neu ddwy i sbecian ar Sgrin Olympaidd y Maes.

Iawn o syniad amwn i, ond rwy'n falch na chymerodd y trefnwyr y cam Olympaidd pellach o lenwi seddi gweigion y Pafiliwn efo milwyr.

Go brin fod digon ar ôl beth bynnag.

A beth fyddai Jim yn ei ddweud?

Y fo eisiau cau'r giât yn wyneb Trident yn Sir Benfro a chael gwared ag arfau hededog y drones o Geredigion.

Er, rwy'n sylwi i ambell i hen drôn o'r sir honno gyrraedd y Maes beth bynnag.

Apêl sydd ddim yn apelio

Yn ystod eu hymweliadau hwy â'r Maes bu'r gwleidyddion hwythau yn drônio - braidd gormod i'm meddwl i - am "ehangu apêl" y 'Steddfod a'i gwneud hi'n "fwy hygyrch" i'r di-Gymraeg os yw hi am fwy o nawdd Llywodraeth.

Ai ystyr hynny ydi defnyddio'r Saesneg yn ei gweithgareddau?

Diolch i'r Archdderwydd sy'n gadael, am ein sicrhau y byddai safiad cryf yn erbyn hynny.

"Gwell 'Steddfod Gymraeg dlawd nag un gyfoethog Seisnig," yw'r adnod o Lyfr y Gorseddau.

A dipyn o Inglish . . .

Yn rhyfedd iawn, yn y Babell Lên ddydd Sul, llithrodd un enghraifft o'r Rheol Gymraeg yn cael ei gwyro heibio yn gwbl ddisylw.

Wrth hel atgofion am ei frawd, Huw Ceredig, dewisodd Alun Ffred Jones AC gynnwys recordiad Saesneg byr o Huw yn adrodd darn o Under Milk Wood, Dylan Thomas.

Ni chynhyrfodd ac ni chyffrôdd neb gan gynnwys y stiwardiaid.

Ond dyna fo, roedd y darlithydd yn gyn weinidog diwylliant yn y Senedd ac yn aelod o Blaid Cymru, a hawl ganddo felly, siŵr o fod, i blygu'r rheolau.

Tybed fyddai'r gynulleidfa yr un mor faddeugar o Dori neu Lebor?

Cŵl dŵds

Sôn am iaith - yr oedd camp pob un o Ddysgwyr y Flwyddyn, eleni eto, yn gymaint rhyfeddod a thestun edmygedd ag erioed.

A'u meistrolaeth ar eu hiaith fabwysiedig yn llwyr.

Diawcs, onid oedan nhw yn medru dweud, gystal os nad gwell na chi a minnau, "so" a "rîli"?

A dwi'n siŵr imi glywed "ffantastig" neu ddau hefyd.

Cam bach rŵan fydd geiriau fel adborth, opsiwn, negydu, cŵl ac yn y blaen.

Plygu i'r drefn

Leighton Andrews
Hybu technoleg fodern

Galwad arall gan y gwleidyddion oedd yr un gan Leighton Andrews i bapurau bro gofleidio'r dechnoleg newydd yn eu gweithgareddau a moderneiddio.

Mi allai ddeall awch y dyn. Wedi'r cyfan, os yda chi'n cydfyw efo Pennaeth BT mi rydach chi'n dod i ddeall a gwerthfawrogi'r pethau yma yn gynt na ni ddynsus y bröydd.

Ond oes yna fygythiad yma i achlysuron cymdeithasol pwysig fel nosweithiau plygu cwbl anhechnolegol - a dydw i ddim am i neb gamddeall ystyr hynny?

Byddai hynny'n drueni.

Eto fyth

Mi gollais i ddarlith Archesgob Cymru am Gerallt Gymro a'i gyhuddiad fod y Cymro o'r Canol Oesoedd ymhlith y gorau am droi dŵr i'w felin ei hun a hyrwyddo ei hun.

Byrdwn yr Archesgob Barry Morgan oedd fod Gerallt yn gymeriad a chryn ddeuoliaeth yn perthyn iddo.

Yr union beth ag a ddywedwyd mewn erthygl yn y Western Mail yng ngwanwyn 2011 gan Richard Marsden o Brifysgol Caerdydd ac sydd wedi ei chynnwys yn y gyfrol Heroes and Villains in Welsh History a gyhoeddwyd gan Gomer cyn y Steddfod.

Na, does 'na ddim byd newydd mewn hanes. Yn wir, mae ambell i beth reit hen.

Trio'n gorau

Beth wnewch chi o'r ffurf farddonol yna, Tribannau Morgannwg?

A beth fyddech chi'n eu galw yn y Saesneg?

Pen Iesu Grist mewn Tryc
Pen Iesu Grist mewn Tryc

Un awgrym a glywyd ar y Maes oedd, Glamorgan Triplets!

Dŵ ni ddim.

Beth bynnag, trïwch hon tra da chi'n meddwl am well cyfieithiad:

Nid pell o blwÿf y Wenni

Ma merch o'r enw Sali

Hen faedan oerllyd, sychlyd, swrth

Hi'm poena wrth i henwi.

Pensynio

Gyda lluniau un arlunydd yn cael eu dwyn o gar cyn dechrau'r 'Steddfod, rhyw fynd o ddrwg i waeth fu hanes Y Lle Celf eleni.

Yn rhyfedd iawn ni tharfodd cerflun o'r enw Pen Iesu Grist mewn Tryc ar neb.

Be mae rhywun i'w wneud o hynna?

Fan hyn

Mari a Roger ger y garafan
Mari a Roger ger y garafan

Nawr mi rydw i mewn sefyllfa i ddatrys dirgelwch Steddfodol fu'n pyslo sawl un.

Bu carafán ger mynedfa'r Maes Carafanau yn destun cryn ddyfalu yn ystod yr wythnos.

Ymddangosodd yno y diwrnod cyntaf wedi ei lapio mewn polethîn.

"Yr ail ddiwrnod roeddwn i'n pasio roedd hi wedi ei lapio mewn rhywbeth fel tarpowlin, a'r diwrnod wedyn efo mwy o bolethîn eto," meddai un o'r carafanwyr.

Doedd yna neb i'w weld yn byw ynddi - ond yr oedd hi yno i bwrpas yn ôl Mari Beynon Owen a'i chariad yr arlunydd o Benarth Roger Lougher.

Eglurodd Mari fod y garafán yn cael ei lapio bob diwedd dydd oherwydd nad oes iddi ffenestri a'i dadlapio bob bore!

Dan yr enw 'fan hyn' math o oriel gelf oedd hi gydag arlunwyr wedi bod yn casglu pethau oddi ar Faes yr Eisteddfod i greu gwrthrychau i'w harddangos ynddi.

Trefnwyd cysylltiad uniongyrchol rhwng y garafán a'r Lle Celf hefyd fel y gellid gweld y naill le o'r llall.

Yn sicr, bu'n destun siarad a dyfalu.

Merched y Ddawns Flodau
Arogl y blodau yn creu argraff ar y bardd

Blodeuog

Gwyneth Lewis, yn dilyn ei choroni, glywais i yn cyfeirio at "wynt" hyfryd y ddawns flodau gydag arogl y blodau yn nwylo'r dawnswyr bychain wedi gwneud argraff arni ac ychwanegu at hud y seremoni.

Hyfryd oedd clywed hynny.

A gobeithio i drefnwyr y ddawns yn y dyfodol fod yn gwrando - oherwydd bu'n duedd yn ddiweddar i ddefnyddio blodau plastig, ar gyfer y ddawns.

Da iawn Forgannwg am adfer blodau go iawn.

I Fryn y Briallu yr aeth Iolo - nid B&Q ei ddydd.

Twdl Dŵ

A dyna ni am flwyddyn arall.

Mae'n debyg mai rhyw Dŵ or Dai o 'Steddfod oedd hon yn mynd i fod o'r cychwyn - gyda rhai yn troi eu golygon at awen a cherdd ond eraill at Dai Greene a'i Olympics.

Pa un bynnag aeth a'ch ffansi chi mae hi'n amser dweud Twdl-dŵ o ddifrif o Landŵ.

Ac edrych ymlaen at Brifwyl 2013 yng Nghlwyd.

Pwy ddaw i Dindroi yn Ninbych yr wythnos hon y flwyddyn nesaf, amser a ddengys .

Mwynhewch eich blwyddyn!

Ond pe byddech chi'n dewis aros yn Y Fro am 'chydig ddyddiau llyfr defnyddiol i gael gafael arno yw Llwybr Bro Iolo Morganwg - casgliad o saith o deithiau i leoedd sy'n gysylltiedig â'r cymeriad hynod hwnnw ac wedi ei gyhoeddi gan nifer o gyrff cyhoeddus yn cynnwys Cyngor Bro Morgannwg mae am ddim.