Evans i frwydro am aur yn y Gemau Olympaidd

  • 11 Awst 2012
Fred Evans
Evans yw'r bocsiwr cyntaf o Gymru i ennill medal Olympaidd ers 1972

Mae'r bocsiwr Fred Evans yn paratoi am ornest fwyaf ei fywyd ar ôl iddo sicrhau ei lef yn rownd derfynol cystadleuaeth pwysau welter (69kg) y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Nos Wener fe wnaeth Evans o Gaerdydd guro Taras Shelestyuk o'r Wcráin, pencampwr y byd ac mae o nawr yn sicr o ennill o leiaf medal arian.

Bydd Evans, 21 oed, yn wynebu Serik Sapiyev o Kazakhstan yn y rownd derfynol ddydd Sul.

Evans yw'r bocsiwr cyntaf o Gymru i ennill medal Olympaidd ers Ralph Evans yn 1972 yn Munich.

Shelestyuk oedd prif ddetholyn y gystadleuaeth a'r byd yn ogystal, ond roedd y bocsiwr o Gaerdydd wedi dangos cryn dipyn o'i ddawn i gyrraedd y pedwar olaf.

Dechreuodd Evans yn wych gan agor bwlch o dri phwynt dros ei wrthwynebydd ar ddiwedd y rownd gyntaf.

Roedd yr ail rownd yn galetach ac yn agosach, gyda'r beirniaid yn rhoi pedwar pwynt yr un i'r ddau - mantais gan Evans o driphwynt wrth fynd i'r rownd olaf felly.

Yn rownd yr wyth olaf, roedd gan Evans fantais o bedwar pwynt ar ddechrau'r rownd olaf, dim ond i golli'r fantais i gyd yn y rownd honno.

Ond er i'r dyn o'r Wcráin frwydro'n ôl yn wych, doedd dim camgymeriadau'r tro hwn wrth i Evans sicrhau ei le yn y rownd derfynol ddydd Sul gyda buddugoliaeth o 11-10.

Fe fydd medal arian iddo o leiaf, ond bellach y Cymro yw'r ffefryn am yr aur.