Dylan yn ennill Cadair Bro Morgannwg

  • 10 Awst 2012
Dylan Iorwerth - enillydd y Gadair
Dylan Iorwerth - enillydd y Gadair

Dylan Iorwerth sy' wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012.

Mae'n un o griw bychan o feirdd a llenorion sydd wedi ennill y Gadair, Y Goron a'r Fedal Ryddiaith.

Ac mae ei fuddugoliaeth flwyddyn yn union wedi i'w nai, Rhys Iorwerth, ennill Y Gadair.

Roedd 10 wedi ymgeisio a'r dasg oedd llunio dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell ar y thema Llanw.

Y beirniaid oedd Mererid Hopwood, Huw Meirion Edwards ac Ieuan Wyn.

Cafodd y cerddi eu hysgogi gan farwolaeth tad Dylan yn gynharach eleni, Thomas Edward Jones neu Twm Glasbwll.

Er cof

Fe'u hysgrifennwyd hwy er cof amdano ac, yn sgîl hynny, maen nhw hefyd yn deyrnged i'w fam, Gweneirys, sy'n byw yng Nghaernarfon.

Er bod y cerddi'n gymysgedd o ddychymyg a gwirionedd, mae'r cyfan wedi'i seilio ar y profiad o fod gyda'i dad yn ystod ei fisoedd olaf.

Yn ogystal â llanw a thrai bywyd unigolyn, y cefndir ehangach yw llanw a thrai bywyd ei hun a pharhad o genhedlaeth i genhedlaeth.

Ysgrifennwyd y cerddi yn wythnos olaf mis Mawrth mewn hen ffermdy hardd wrth droed Cader Idris, yn ei ardal enedigol.

Dywedodd Y Prifardd Mererid Hopwodd wrth draddodi mai "anwastad ar y gorau" oedd y cynnyrch yn gyffredinol.

Wrth gyfeirio at y gwaith buddugol, dywedodd fod y cerddi i gyd yn weithiau unigol ond eto eu bod yn creu cyfanwaith fel dilyniant testunol.

"Ry'n ni'n tri o'r farn y dylai Owallt daflu ymaith unrhyw deimlad bod eisiau isdeitlau esboniadol i roi swmp i'w awen ei hunan ... mae ganddo fe - neu hi - hen ddigon o adnoddau heb angen pwyso ar hyn.

'Yn deilwng'

"... dylai bardd sydd â gweledigaeth mor ddwys ac un sy'n gallu canu mor delynegol gredu yn ei allu neu ei gallu ei hunan.

"Ar ôl trafodaeth fuddiol rhyngom ein tri, mae'n bleser gallu cyhoeddi'r farn ein bod ni'n gytûn mai Owallt sydd ar y brig a bod Owallt yn deilwng o Gadair Eisteddfod Genedlaethol 2012."

Fe enillodd Dylan y Goron yn Eisteddfod 2000 yn Llanelli a'r Fedal Ryddiaith yn Eryri yn 2005.

Dywedodd Dylan fod y diolch am hynny i nifer o bobl fu'n ei ysbrydoli a'i annog. Yr amlycaf yn eu plith oedd ei athrawes bore oes, Katie Jones, a thri ffrind annwyl, T H Williams, Garreg Fawr (Yncl Tom), y Prifardd Emrys Edwards a'r dramodydd John Gwilym Jones.

Cafodd ei eni yn Nolegllau cyn symud yn ifanc i Waunfawr ger Caernarfon ac ers 25 mlynedd mae wedi byw yn Llanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan.

Mae'r tri lle, yn eu ffyrdd gwahanol, wedi cael dylanwadu'n fawr arno.

Ei gwmni yn Llanwnnen yw ei wraig, Elaine Davies, eu merch, Luned Mair, milgi o'r enw Sam a chasgliad o gymdogion gwerth chweil.

O ran diddordebau, mae'n hoff o wrando ar gerddoriaeth jazz, yn coginio bwyd - a'i fwyta - a, phan fydd amser, yn darllen.

Mae'n sgrifennu ambell sgript ar gyfer Ffermwyr Ifanc a phlant ac yn ymdrechu'n lew i gadw'r hiwmor rhag bod yn rhy goch.

Un o'r tri

O ran gyrfa, dim ond un peth y mae wedi'i wneud erioed - newyddiadura - gan ddechrau yn 1978 gyda phapur wythnosol y Wrexham Leader.

Wedi hynny helpodd sefydlu'r papur Sulyn a bu'n Ohebydd Seneddol ar ran gwasanaethau Cymraeg y BBC ac S4C.

Roedd yn un o'r tri sefydlodd gylchgrawn Golwg ym 1988 ac mae bellach yn Olygydd Gyfarwyddwr ar gwmnïau sy'n cynnwys Golwg, Wcw a'i Ffrindiau, Lingo Newydd a'r gwasanaeth newyddion ar-lein, Golwg360.

Mae hefyd yn cyfrannu colofnau i gyhoeddiadau mor amrywiol â Golwg, papur bro Clonc, y Western Mail a chylchgrawn yr Undodiaid, Yr Ymofynnydd.

Cafodd Y Gadair ei gwneud o bren yr onnen o Ddyffryn Gwy gan y crefftwr Andrew Lane o Sir Fynwy.

Mae'r Gadair eleni a'r wobr ariannol o £750 yn rhodd gan Gareth a Ruth Williams, Treoes.