Seiclwr: Dyn yn euog o yrru'n beryglus

  • 9 Awst 2012
Edward Adams
Clywodd y llys fod Adams wedi ceisio cuddio ei fan Peugeot ar ôl y drosedd.

Cafwyd gyrrwr ar gyhuddiad o daro seiclwr Paralympaidd a'i anafu'n ddifrifol yn euog o yrru'n beryglus.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd y byddai Edward Adams, ffermwr 60 oed o'r Bontfaen, yn cael ei ddedfrydu ar Awst 30.

Roedd Adams wedi yfed dwywaith yn fwy na'r lefel gyfreithiol o alcohol.

Yn awst y llynedd roedd Simon Richardson, 44 oed o Borthcawl, yn seiclo ar yr A48 ger Pen-y-bont ar Ogwr pan gafodd ei daro.

Eisoes roedd Adams wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru ac o beidio ag aros ar ôl damwain.

Dywedodd Jane Rowley ar ran yr erlyniad na ddylai Adams fod wedi bod yn gyrru oherwydd ei fod wedi yfed gormod ac oherwydd nad oedd ei olwg yn ddigon da.

Cuddio ei fan

Clywodd y rheithgor nad oedd Adams, hyd yn oed wrth wisgo sbectol, yn gallu darllen rhif cofrestru car o bedwar metr neu 13 o droedfeddi.

Yn ôl yr erlyniad, roedd ond yn gallu darllen rhannau rhif cofrestru o bellter o ddau fetr neu 6.5 troedfedd.

Enillodd Simon Richardson ddwy fedal aur ac un arian yn Ngemau Paralympaidd Beijing.

Clywodd y llys fod Adams wedi ceisio cuddio ei fan Peugeot ar ôl y drosedd.

Roedd y seiclwr yn ymarfer ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain ac wedi teithio 250 milltir ar lonydd cefn gwlad yr wythnos honno.

Enillodd ddwy fedal aur ac un arian yn Beijing yn 2008.