Edrych yn ôl ar dair blynedd brysur i Jim Parc Nest

  • 9 Awst 2012
T James Jones
Image caption T James Jones - yn ei swyddfa ar faes y Steddfod

Gyda thymor T James Jones - Jim Parc Nest - yn Archdderwydd yn dirwyn i ben ddydd Gwener, wrth iddo lywio ei seremoni wobrwyo olaf bûm yn ei holi bnawn Iau am ei gyfnod yn Archdderwydd.

Ei holi am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, datganiadau archdderwyddol a phwysigrwydd rheol Gymraeg yr Eisteddfod ar wythnos pan alwodd dau wleidydd am ehangu apêl y Brifwyl a'i gwneud yn fwy hygyrch i rai na allant ddeall Cymraeg.

Ac os mai côd, fel y mae rhai yn ei amau, am gyflwyno'r Saesneg i'r Brifwyl yw hynny dywedodd yr Archdderwydd y byddai yn gwbl wrthwynebus i unrhyw Seisnigo.

"Fe fyddwn i'n sefyll yn erbyn hynny yn gryf iawn, iawn. Wrth gwrs bod eisiau creu pont, yn ben dant, ac mae eisiau denu mwy a mwy," meddai.

Pwysleisiodd bwysigrwydd denu a meithrin mwy a mwy o ddysgwyr fel ffordd o lwyddo.

"Mae mudiad y dysgwyr mor bwysig ac yn y fan yna mae'r bont nid trwy ddod â Saesneg i mewn ond denu pobl sy'n siarad Saesneg i mewn i weithgareddau Cymraeg," meddai.

"Ac fe ddylai'r Llywodraeth sylweddoli mor bwysig yw'r Gymraeg," meddai gan ychwanegu nad yw ef wedi clywed neb yn dweud bod eisiau newid y rheol Gymraeg . . . "Ond os daw e i'r amlwg bydd yn rhaid gwneud safiad," meddai.

Wynebau buddugwyr

"Y pleser mwyaf rydw i wedi ei gael yw gweld gwên ar wynebau'r buddugwyr fel maen nhw'n cyrraedd y llwyfan.

"Ambell un ohonyn nhw dipyn bach yn ofnus achos chwarae teg dydy'n nhw ddim wedi gweld shwt seremoni o'r blaen, y rhan fwyaf ohonyn nhw, a does dim modd cael hyfforddiant ac wedyn mae dyn yn teimlo ei fod yn gallu eu helpu nhw i fod yn gartrefol ar y llwyfan.

"Wedi'r cyfan mae hi'n un o'r momentau mawr i unrhyw lenor neu fardd i ennill un o'r gwobrau yma ac mae hwnna wedi bod yn bleser digymysg i mi," meddai.

Pleser Patagonia

Pleser arall ei gyfnod yn Archdderwydd fu "cael cwrdd â phobl a thrafaelu" - yn arbennig i Batagonia lle gwnaed argraff fawr arno gan yr ymdrech i adfer y Gymraeg yno.

"Mae wedi codi awydd mawr arnaf i fynd yn ôl," meddai.

Fe'i syfrdanwyd meddai gan yr adfywiad yn yr iaith Gymraeg yno.

"Ymweld ag Ysgol Trelew, lle mae rhyw gant o blant yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae hwnna yn rhyfeddod ac mae yna ysgolion eraill yn codi yno."

Canmolodd yn fawr y mynd yn ôl a blaen sy'n digwydd rhwng Cymru a Phatagonia erbyn hyn gydag aelodau mudiadau fel yr Urdd yn ymweld â'r Wladfa a gwaith mentrau iaith.

"Mae lot fawr o ieuenctid yn Y Wladfa nawr wedi ailgydio yn yr iaith ac yn dangos diddordeb newydd ynddi hi.

"Rwy'n gobeithio ein bod yn mynd i weld mwy a mwy o draffig rhwng Cymru a'r Wladfa gan fod hynny yn rhoi rhyw ddimensiwn newydd ," meddai.

Siom y Fedal Ryddiaith

"Yr oeddwn wedi meddwl cael y gamp lawn - gobeithio y bydd fory (dydd Gwener) yn iawn ond roeddwn yn siomedig ddoe," meddai am nad oedd neb yn deilwng o'r Fedal Ryddiaith.

"Ond eto, rwy'n gweld beth oedd y beirniaid wedi sefyll drosto, sef safon, ac yn falch iawn eu bod wedi bod yn ddigon dewr i wneud y safiad yna. Mae safon yn bwysig."

Dywedodd na fyddai wedi bod yn benderfyniad hawdd i'r tri beirniad.

"Rwy'n gwybod o brofiad, dwi 'di bod yn beirniadu ac o, mae'n demtasiwn i drio achub y seremoni.

"Rydych chi'n gwybod bod yna gynulleidfa yn disgwyl i rywun ennill ac yn disgwyl seremoni, ond mae'r safon yn bwysicach yn y pen draw."

Fel y beirniaid eu hunain, ni chredai mai cychwyn rhyw duedd oedd yr hyn ddigwyddodd ddydd Mercher ond un digwyddiad ar ei ben ei hun.

"Mae'n rhaid mai rhyw ebwch bach oedd o, yng nghanol toreth o nofelau Cymraeg sy'n cael eu cyhoeddi.

"Tua phymtheng mlynedd sydd ers iddi gael ei hatal o'r blaen. Rwy'n credu mai jyst peth dros dro oedd o gan fod cymaint o sgrifennu," meddai.

Image caption Hon yn sicr fydd y seremoni fwya' cofiadwy iddo

Urddo'i wraig

Go brin fod angen gofyn iddo pa seremoni arhosai yn y cof o'i gyfnod yn Archdderwydd ac yntau'r unig archdderwydd erioed i urddo ei wraig ei hun â phrif wobr - y Fedal Ryddiaith i Manon Rhys y llynedd.

"Yn naturiol honno oedd y seremoni fydd yn aros yn y cof," meddai gan chwerthin.

"Ac falle bydd yn rhaid aros am sbel cyn y digwydd e eto i neb arall," ychwanegodd.

"Na, mae'n rhaid cyfaddef fod hwnna yn gofiadwy iawn."

Merch yn Archdderwydd

Dywedodd ei fod yn falch mai merch fydd yn ei ddilyn yn Archdderwydd.

"Yn hynod o falch. Hynny yw, ry'n ni wedi bod yn Eisteddfod Iolo Morganwg eleni ac yr oedd hwnnw yn radical o'r radicaliaid mewn sawl maes, ac rwy'n gwybod y byddai ef yn hapus iawn ein bod ni wedi bod mor radical â phenodi menyw yn Archdderwydd."

Rhagwel y bydd y penodiad yn newid holl awyrgylch yr Orsedd.

"Fe ddylai hyn fod wedi digwydd ynghynt ac efallai ein bod ni y dynion wedi ei rwystro rhag digwydd yn ein ffordd, ond rwy mor falch ei fod e wedi digwydd nawr."

Mynegi barn

Ynglŷn â datganiadau archdderwyddol ar faterion dadleuol dywedodd ei bod yn bwysig i Archdderwydd wneud datganiadau am bynciau pwysig y dydd.

Ychhwanegodd hefyd fod gwerth iddynt gan fod y cefn iddyn nhw holl awdurdod Gorsedd y beirdd fel corff.

"Mae'r swydd yn cario rhyw awdurdod oherwydd bod yr Orsedd tu cefn iddi felly mae'r Orsedd yn rhoi awdurdod," meddai.

Dywedodd i'r Orsedd gefnogi yn unfryd ei benderfyniad yr wythnos hon i anfon ei lythyr am Trident a 'drones' at y Prif Weinidog Carwyn Jones.

"Ac mae hynny yn rhoi awdurdod i'r hyn sy'n cael ei ddweud," meddai.

Amser i Dylan

Gan edrych ymlaen, bydd i Ddylan Thomas le pwysig yn ei ymddeoliad.

"Yr ydw i wedi dechrau crynhoi cyfrol o farddoniaeth at ei gilydd. Mae hynny ar y gweill ac mewn rhyw ddwy flynedd efallai fe fyddai yn cyhoeddi," meddai.

"Ond, cyn hynny, mae'r hen Ddylan Thomas ar y gorwel, ei ddathlu ef, ac mae yna dipyn o weithgaredd oherwydd fy nghysylltiad i â'i waith e yn y Gymraeg.

"Yn un peth, rwy'n gobeithio cyhoeddi cyfrol o gyfieithiadau o'i waith gyda rhyw 50 o feirdd yn cyfrannu ac yn cyfieithu nid yn unig ei gerddi ond ei straeon byrion.

"Creu cyfrol sylweddol o gyfieithiadau o'i waith i bontio rhwng y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg," meddai.

Cyfiawnhaodd gyfieithu i'r Gymraeg o iaith y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei deall beth bynnag trwy ddweud:

"Pan fo dyn yn cyfieithu mae'n creu rhywbeth newydd. Mae'n waith newydd. Nid cyfieithiad mohono ond yn waith sy'n sefyll ar ei ben ei hunan.

"Mae yna lot fawr o linellau o gynghanedd yng ngwaith Dylan - roedd e'n gwybod y rheolau - nawr te, mae rhywun yn teimlo ei fod yn haeddu cael ei glywed yn y Gymraeg felly.

"Ac mae'n bwysig hefyd ein bod yn pontio, ein bod ni'n uno'r Cymry Cymraeg a'r Cymry di Gymraeg ac rwy'n credu y byddai Dylan Thomas yn bont dda iawn," meddai.

Glyn Evans