Dipyn o Dŵ - dydd Iau

  • 9 Awst 2012
Gerallt Lloyd Owen
Wedi ildio awenau Talwrn Y Beirdd mae gan Gerallt Lloyd Owen fwy o amser i farddoni

Gwelodd y rhan fwyaf ohonom golli Gerallt Lloyd Owen wedi iddo ymddeol yn Feuryn Y Talwrn ar BBC Radio Cymru.

Ond yr wythnos hon mae rhywun yn dechrau meddwl, nad newyddion drwg i gyd oedd hynny.

Gan fod gan Gerallt yn awr, mae'n amlwg, fwy o amser i farddoni ac y mae o'n barod wedi cipio tair gwobr yn y 'Steddfod hon gan gynnwys un i gyfansoddi Tribannau Morgannwg a'r Cywydd.

Felly, er bod Radio Cymru ar ei cholled, diawch i chi fe all llenyddiaeth Gymraeg fod ar ei hennill fod gan gwyched fardd amser yn awr i gyfansoddi yn hytrach na Meuryna.

Rwy'n edrych ymlaen at y Cyfansoddiadau 'fory.

Talu'r pris

Yr ochr arall i ffensus celf a'r tu hwnt i wrychoedd ein Hafallon ddiwylliannol mae'r werin datws yn dal i grugo a chwyno faint mae'n gostio i gael mynediad drwy'r porth aur sy'n arwain at gynghanedd, dawns a chân.

A llawer ohonyn nhw yn penderfynu peidio dod oherwydd na allant fforddio'r pris.

Roedd yn gŵyn yn Wrecsam y llynedd a'r cwestiwn mae rhai o driogolion Bro Morgannwg yn ei ofyn yw, Os gellid trefnu dydd Sul am ddim i gyflwyno'r Brifwyl i werin dlawd Glyn Ebwy dair blynedd yn ôl pam nad yma?

Gan mai'r llywodraeth a dalodd am hynny fe allen nhw fod wedi medru gofyn i Carwyn neu Leighton pan oedd y ddau ar y Maes ddoe ac echdoe -hynny yw, pe bydden nhw wedi medru fforddio dod i mewn.

Beth am hyn?

Dau o arwyddion y maes.

"Bwyd Bethan," meddai un, "Crochenwaith Bethan," meddai'r llall. Efallai bod yna fwy.

Sy'n peri imi ddyfalu a yw merched o'r enw Bethan yn fwy mentrus ac egniol na merched eraill Cymru.

Os gwir hynny a welwn ni genhedlaeth newydd o blant wedi eu henwi'n Bethan gan rieni sydd am weld eu plant yn llwyddo?

Dweud eu dweud

Yn un o Bebyll y Cymdeithasau wele arwydd dwyieithog gan y Cynulliad gyda'r geiriau:

"Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yn hybu barn a thrafodaeth."

Ac yn Saesneg, "Encouraging discussion and debate".

Ond mewn gwirionedd dyw'r ddwy iaith ddim yn dweud cweit yr un peth.

Nid gair Cymraeg am discussion ydi barn ac nid gair Saesneg am drafodaeth ydi debate.

Ond mae'n well na Sgymraeg debyg.

Mynd a dod

Sôn am Bebyll y Cymdeithasau; beth mae siaradwr neu anerchwr i'w wneud o rywun yn cyrraedd ei ddarlith rai munudau yn hwyr, yn eistedd i lawr a gwrando a chodi mewn rhyw ddeng munud - a mynd allan.

Digon i roi unrhyw un oddi ar ei strôc.

O iaith i iaith

Rhywun yn stwffio rhifyn o Y Selar i'm llaw.

A sylwi ar rybudd ar ddalen y cynnwys:

"Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar."

Diddordeb sydd gen i yn y gwahaniaethu rhwng iaith gref ac iaith anweddus - a pha bryd mae un yn troi i'r llall.

Beth bynnag, gan y Cyngor Llyfrau mae'r Selar yn cael ei ariannu - a'i ddosbarthu "gan y Mentrau Iaith".

Mentrau gydag iaith gref ac anweddus siŵr o fod.

Si lŵ loli

Hywel Gwynfryn gyfeiriodd, yn ddestlus iawn yn ei sylwebaeth o seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen, at Robat Gruffudd yn eistedd yn ddi-lol yn ei sedd ar y llwyfan.

Clawr rhifyn 2012 o'r cylchgrawn Lol
Clawr Lol 2012

Digon di-Lol ydi'r Eisteddfod hon hefyd parthed y cylchgrawn o'r enw hwnnw gyda fawr neb yn siarad amdano a fawr neb wedi ei gythruddo a'i frifo gan ei gynnwys hyd y gwelaf i.

Chwithig gweld yr hen waldiwr a wylltiodd y Cynan trystfawr hyd enllib mor ddiniwed erbyn hyn.

A chyda chymaint o wallau iaith a chamdreiglo ynddo fo hefyd - nid bod rhywun yn disgwyl safon Medal Ryddiaith mewn cyhoeddiad o'r fath - ond wir ichi . . .

Ac mae'r bronnau noeth wedi mynd hefyd tasa hynny o ddiddordeb ichi.

Ond colli'r jôcs ydw i yn fwy na'r rheini.

Ond mae'r clawr yn eitha'.

A dyma hi'n amser dweud Twdl Dŵ unwaith eto o Landŵ.

Tan fory - os deil y tywydd a'r dechnoleg.