Cyhoeddi ymholiad cyntaf Comisiynydd y Gymraeg

Claf mewn ysbyty
Mae 'na 12 mlynedd ers yr adolygiad diwethaf i'r defnydd o'r Gymraeg ym maes iechyd.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd yr ymholiad cyntaf ar y defnydd o'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal.

O dan y Mesur Iaith mae gan Meri Huws y pŵer i wneud ymholiad statudol ac mae'n debyg ei bod hi'n ystyried bod y ddarpariaeth ym maes iechyd a gofal yn broblematig.

Fe fydd trafodaeth gychwynnol i ddewis union faes yr ymholiad ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mercher.

Dywedodd hi wrth y Post Cyntaf: "Mae hwn yn mynd i fod yn ymholiad statudol o dan Fesur y Gymraeg 2011.

'Statws cyfreithiol'

"Felly bydd yna statws cyfreithiol iddi nid ryw ymchwil, nid jyst gofyn cwestiynau er mwyn gofyn cwestiynau.

"Fe fydd 'na adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y broses ac fe fydd yr adroddiad yn cynnig argymhellion pendant i awdurdodau lleol, i Lywodraeth Cymru ac i'r byrddau (iechyd)."

Bydd yr ymholiad yn ymwneud â'r Gwasanaeth Iechyd, iechyd preifat a'r sector gwirfoddol.

Eisoes mae'r Gymdeithas Feddygol wedi na ddylai'r Gymraeg fod yn flaenoriaeth i'r Gwasanaeth Iechyd.

Y bwriad, yn ôl y comisiynydd, fydd asesu sut mae modd gosod y defnyddiwr yn ganolog i'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu a chreu gweithle ar gyfer y dyfodol.

Ymhlith y pum maes fydd yn cael eu hystyried y mae meddygon teulu, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.

'Cynllunio'

"Dwi'n gobeithio a dwi'n ffyddiog y bydd yr ymholiad yn cael sylw oherwydd ei fod e'n faes sydd yn agos at galonnau pobl, ac fe fyddwn ni yn cynnal yr adroddiad mewn ffordd allen nhw ddim ei hanwybyddu...," meddai Ms Huws.

"Os ydy'r Gymraeg yn rhan annatod o batrwm triniaeth a gofal Cymru, mae'n rhaid sicrhau fod y bobl sy'n darparu'r gofal yn gallu defnyddio'r Gymraeg boed nyrsys neu ddoctoriaid.

"Felly ry'n sôn am gynllunio tymor canolig, tymor hir."

Mae 'na 12 mlynedd ers adolygiad cynhwysfawr diwetha' Llywodraeth Cymru ym maes iechyd ac mae disgwyl i Ms Huws ddweud bod 'na angen mawr am un arall.

Meri Huws
Meri Huws: ' ... dwi'n ffyddiog y bydd yr ymholiad yn cael sylw ...'

Wedi'r ymholiad bydd hi'n cynnig argymhellion ac yn ôl geiriad y mesur iaith bydd rhaid i weinidogion Cymru roi "sylw dyladwy" i'r hyn y bydd hi'n ei gynnig.

Mae Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi croesawu'r ymholiad.

Dywedodd y byddai peidio â rhoi cyfle i gyfathrebu'n Gymraeg yn peri gofid i rai cleifion a'u teuluoedd.

"Yn y proffesiwn rydyn ni wedi dod ar draws agwedd negyddol at yr iaith," meddai.

'Angen newid'

"Mae 'na enghreifftiau wedi bod, staff yn dweud wrth staff neu gleifion i beidio â siarad yr iaith a staff yn ceryddu cleifion am siarad yr iaith.

"Yn sicr, mae angen newid hyn."

Yn ôl Dr Geraint Tudur o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg: "Credwn fod hawl sylfaenol gan bobl i gael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysbyty, yn y cartref neu mewn cartref preswyl yng Nghymru.

"Mae pobl yn teimlo'n fwy cysurus o lawer o gael gofal yn eu hiaith eu hunain. Rydym yn falch dros ben bod Meri Huws yn bwriadu gwneud hyn yn flaenoriaeth."

Ym Mai dywedodd y Gymdeithas Feddygol na ddylai'r Gymraeg fod yn flaenoriaeth i'r Gwasanaeth Iechyd mewn cyfnod o gyni.

Roedd yn ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru i hybu defnydd o'r Gymraeg gan staff.

Dywedodd y mudiad y dylai'r pwyslais yn hytrach fod ar agweddau meddygol y gwaith.