Dipyn o Dŵ - dydd Mercher

  • 8 Awst 2012
Disgrifiad teilwng ar y maes
Image caption Arwydd pwrpasol

Arwydd ar y maes yn hysbysebu "Cwdyn bach cyffrous yn rhad ac am ddim".

Mor hawdd y gallai hynna fod yn fi.

Gan fod sawl un dros y blynyddoedd wedi ngalw i'n Gwdyn bach cyffrous.

Wel, nid cyffrous efallai . . .

Siom a dawns

Toc wedi pump y diwrnod hwn y llynedd yr oedd yr Archderwydd yn cydio'n dyn yn llaw ei wraig yng ngorymdaith yr Orsedd ac yntau newydd ei harwisgo â Medal Ryddiaith Eisteddfod Wrecsam.

Eleni doedd neb wrth ei ochr ac yntau newydd brofi siom gyntaf ei deyrnasiad a gweld atal un o brif wobrau y Genedlaethol.

Image caption Meistres y Gwisgoedd yn dychwelyd o seremoni'r Fedal Ryddiaith a chlog y buddugol heb ei defnyddio

Ac yn eironig ddigon cyn bennaeth Cyngor Llyfrau Cymru - y corff sy'n hybu gwerthiant llyfrau Cymraeg - Gwerfyl Pierce Jones - dorrodd y newydd i'r genedl fel cadeirydd y beirniaid.

Newydd a fydd yn tolcio yn sylweddol werthiant llyfrau Cymraeg.

Dywedodd Gwerfyl ac un arall o'r beirniaid, Fflur Dafydd, mai am 'sgrifennu cain a blaengar yr oedden nhw'n chwilio ond na chafwyd hynny i'r graddau a ddymunwyd gan yr un o'r wyth ymgeisydd.

Ond doeddan nhw ddim yn rhagweld diwedd y byd llenyddol Cymraeg.

"Mae gan y gystadleuaeth hon record arbennig o dda," meddai Gwerfyl wedi'r ddim seremoni.

"Dydi unwaith mewn pymtheng mlynedd ddim yn ddrwg," meddai ac yr oedd hi a Fflur yn proffwydo adfywiad eto y flwyddyn nesaf.

Image caption Gwerfyl Pierce Jones a Fflur Dafydd - siomedig ond gobeithiol

A lliniarwyd siom yr Archdderwydd hefyd i ryw raddau gan ddawnsio bywiog ac egnïol Dawnswyr Bro Taf.

Ac er ei fod yn awr wedi methu â diogelu y gamp lawn honno yr oeddwn yn sôn amdani ddydd Llun, ei eiriau wrth y gynulleidfa cyn cau'r seremoni oedd "A fu gwell achub ar sefyllfa erioed."

Dim cleimacs

Heddiw, methiant fu dwy ymgais i gyffroi yn rhywiol Ferched y Wawr Y Bont-faen.

A chafodd Manon Rhys mo'i bodloni ychwaith - fel y cyfaddefodd wrth feirniadu'r gystadleuaeth "Ffuglen erotig chwaethus" yn y Babell Lên y peth cyntaf y bore ma - rhyw fath o frecwast chwadan llenyddol.

Dim ond dau, meddai Manon, oedd wedi cystadlu a'r un ohonynt yn deilwng o'r £200 o wobr a roddwyd gan Ferched y Wawr Y Bont-faen.

Gyda'u golwg siŵr o fod ar nosweithiau hirion y gaeaf.

Ond efallai bod y ddau gystadleuydd, fel finnau, mewn trafferth asio'r ddau air, erotig a chwaethus yna.

Yn ei beirniadaeth rhoddodd Manon gymaint, os nad mwy, o sylw i ryfeddod llwyddiant y nofel Fifty Shades of Grey yr oedd wedi anfon yn shedi iawn ei gŵr, yr Archdderwydd mewn un shêd o wyn, i siop yn Hwlffordd i'w phrynu iddi.

Cafodd Manon y nofel yn eisiau hefyd ac wedi darllen hanner ffordd drwyddi nid yw'n bwriadu dal ati tan y ddalen olaf meddai.

Felly, efallai bod gobaith i'r orau o'r ddwy ymgais ddiffygiol yn y gystadleuaeth fel yr awgrymodd y beirniad ei hun.

"Os yw yma y bore ma dymunaf bob lwc iddo fo neu hi gan obeithio y bydd hithau neu yntau yn brasgamu ymlaen gyda'r math hwn o 'sgrifennu a gwneud ei filiynau," fel awdur y nofel Saesneg sâl nad apeliodd at wraig Archdderwydd!"

A'r cysur i ferched Y Bont-faen yw bod eu £200 o wobr yn dal ganddynt i'w gwario ar rhyw ddull arall o ddigoni eu chwantau erotig - chwaethus.

Ac am y cystadlu; efallai y bydd pethau yn well y flwyddyn nesaf - yn Dinbych - gyda mwy o bobl yn mynd i ysbryd y darn fel petai.

Dŵ bi dwbi dŵ - da de.

Dŵ droed a dŵ-r

Gyda'r glaw daeth stomp i'r maes ddoe.

Image caption Peryg! Llwybrau coch

Ar ben hynny clywyd arbenigwr meddygol yn dweud bod rhai o'r llwyrbrau caregog yn beryg i draed, cefn a iechyd rhywun.

Peryclach o beth cythral yw'r tracfyrddau cochion yna sydd i fod i'ch harbed rhag mwd a llaid ond sydd, wrth ichi gerdded arnyn nhw, yn peri i'r llacs saethu'n ddefnynnau brownion i'ch harffed.

Druan o ferched mewn sgertiau dybiwn i.

Ar gyfer heddiw'r pnawn fodd bynnag daeth haul i'r Fro a llawenydd i wyneb pawb.

Ac mae'n addo'n dda ar gyfer yfory.

Dim Steddfod

Mewn ambell i le y tu allan i faes yr Ŵyl, hyd yn oed yn Y Fro, y mae rhywun cyn belled o firi'r 'Steddfod ag y mae'n osib bod.

Yn aros mewn Travelodge ond chwarter awr o'r Maes does dim 'Steddfod nag S4C ar deledu'r gwestyn.

Yr oedd yr un peth yn wir mewn sefydliad tebyg ar gyrion Abertawe wythnos Eisteddfod yr Urdd y llynedd.

Ydi, mae'n union fel bod adref os ydfych o Loegr yng Nghymru - ond nid os ydych o Gymru yng Nghymru.

Newid byd

Carwyn ar y Maes heddiw. Leighton Andrews y dydd o'r blaen. Y ddau yn edrych yn fodlon iawn eu byd yng ngwres croeso'r jyncet fawr.

Bydd rhai yn cofio'r dyddiau hynny pan oedd gwleidyddion yn cael eu herlid a'u hysio ar draws maes gan fytheiaid iaith.

A phebyll yn cael eu llarpio a'u peintio â slogannau.

Yr oedd hynny flynyddoedd CC wrth gwrs - Cyn Cynulliad hynny yw.

A does fiw dweud od rhywbeth yn ddigon difyr yn hynny.

Felly wnai ddim.

Ac mae'n amser dweud Twdl Dŵ unwaith eto o Landŵ.

Tan fory - pwy bynnag fydd yma.