Dipyn o Dŵ - dydd Mawrth

  • 7 Awst 2012
Y Maes
Image caption Mae miloedd wedi heidio i Landŵ

A'r dŵ pwysicaf heddiw oedd seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen - os seremoni hefyd.

Ac fe fu mwy o sôn am dechnoleg fodern a'r peryg i Gymru a'r Gymraeg ddiflannu pe byddem ddigon ffôl a'i anwybyddu.

Ond John Rowlands wrth draddodi beirniadaeth 'Y Daniel' yn cyfaddef i'r tri beirniad osgoi dyfeisiadau fel gweplyfr, trydar a Skype i'w cynorthwo tra'r oedd un ohonynt allan o'r wlad adeg y beirniadu.

Gaiff o a Gareth F Williams a Sioned Williams eu saethu am y fath frad technolegol?

Go brin - mae saethu yn beth mor hen-ffasiwn erbyn hyn.

O fewn cyrraedd

Ar y llwyfan ar gyfer y seremoni yr oedd dyrnaid o gyn enillwyr Y Daniel.

Yn eu plith Gareth Miles - yn eistedd o fewn hyd braich i John Rowlands.

Tybed a ddaeth i gof un neu'r llall ohonyn nhw adolygiad damniol a distrywiol Gareth o nofel John, Arch ym Mhrâg, ym Maner ac Amserau Cymru pan oedd honno'n dal yn fyw?

Ond aeth sawl arch i'r pridd ers hynny - a maddeuant gyda'r blynyddoedd.

Braf eu gweld yn awr gyda'i gilydd. Onid yw 'steddfod "yn grêt" fel y byddai'r Llywydd Anrhydeddus yn dweud?

Mwdi blws

Glaw heddiw, a'r mwd wedi ymledu o'r maes parcio i faes diwylliant ei hun.

Cyn sicred â'r banc mi fydd rhywun yn dweud Eisteddfwd cyn bo hir gan feddwl ei fod mor wreiddiol â D Tecwyn Lloyd a ddefnyddiodd yr ymadrodd gyntaf ddiwedd y Pumdegau.

Byddai'n syniad saethu unrhyw un sy'n dal i'w ddefnyddio y ganrif hon - ar YouTube efo iPad.

Digio digidol

Picio draw i'r arddangosfa Shefl a Chrefft a chanfod bod technoleg wedi llamu gymaint ymlaen yno nad oes catalog bellach i'ch arwain rhwng y darnau.

Darn plastig digidol llai na gewin bawd eich troed yw'r dref bellach ac angen cyfrifiadur i'w ddarllen.

Trefniant sydd wedi gwylltio mwy nag un ohonom.

Hynny yw gwylltio am y cymryd yn ganiataol parhaus yma bod pawb y dyddiau hyn yn berchen cyfrifiadur.

Mae rhai ohonom hen stojars yn dal i lecio llyfr, dalennau a phrint credwch neu beidio.

Mewn sefydliad sy'n dibynnu cymaint ar fwd a glaw mae'n bosib bod yn rhy hei tec.

Cais am gais

Un sy'n gyfarwydd iawn â mwd ydi'r meddyg JPR Williams o Ben-y-bont - ond ar gae rygbi yn hytrach na chae 'Steddfod.

Yr oedd yn dipyn o strôc ei gael i ruthro i'r bwlch y bore 'ma i helpu stiwardio yn y brif fynedfa.

Oes rhagor o gewri'r oes aur ar y ffordd?

A welwn ni Gareth Edwards yn sglefrio ar ei wyneb i'r llacs rhwng y Babell Lên a Chefnlen fel yn y gêm yna yn erbyn y Barbariaid?

Gwell fyth fyddai eu cael ar stryd fawr y Bont-faen a Phen-y-bont yn annog y Brogiaid lleol i'r Maes.

A fynno'r gwynt

Mae seremoni'r Coroni ddoe, a'r edmygedd o ddyfalbarhad yr enillydd yn dal yn ffresh.

Ynys oedd y teitl ddoe. Yfory bydd perfformiad o'i Storm yn Theatr y Maes.

Ynys ddoe, Storm fory - ydi hi wedi sylwi mai Terfysg ydi testun cystadleuaeth y Goron yn Ninbych y flwyddyn nesaf.

Oes gobaith ennill ddwywaith yn olynnol Gwyneth?

Pwdin i orffen

Llawer llai hei tec na dim byd arall yn ystod yr wythnos odd galwad annisgwyl yn y Babell Lên y bore ma i brotest.

Galwad oedd hi i brotestio yn erbyn 'pwdin reis mewn tuniau'.

Emlyn Richards oedd yno yn traddodi ar Hiwmor y Broydd lle disgrifiodd hiwmor fel y peth hwnnw "sy'n ireiddio sgwrs".

Beth bynnag, yn ystod ei adres daeth pwnc Pwdin Reis o bopty ei ddychymyg a phwysigrwydd hwnnw mewn cymdeithas â fu.

A'r darlithydd yn rhyfeddu mai mewn tuniau mae i'w gael y dyddiau hyn.

"Pwdin reis mewn tuniau? Beth sy'n bod arnom ni?" meddai gan ychwanegu,

"Protestiwch yn erbyn pwdin reis mewn tuniau."

Yn ôl Emlyn Richards mewn desgil bridd - a dim ond desgil bridd - mae gwneud pwdin reis go iawn - "efo lwmp o fenyn yn ei lygaid".

Aeth ymlaen i sôn am brofiad - "yr hen Domos William Gwalchmai" gyda'r fath bwdin.

"Roedd o wedi bwyta yn rhyw dŷ capel yn ddidrugaredd ac roedd yna dipyn ar ôl a'r wraig tŷ capel a desgil bridd yn un llaw a llwy bren yn y llall.

"'Cymrwch fymryn eto Tomos Williams, tasa fo jyst er fy mwyn i,' medda hi. 'Fedrai ddim,' medda fo, 'Na fedrai wir. Dwi di llenwi. Ond os ydio'n rhoi rhyw gysur ichi, tolltwch o am fy mhen i'."

Ar y maes ddoe roedd Heulwen Gruffydd, awdur Gwres y Gegin, a gyhoeddwyd dros y Nadolig. Hithau hefyd o Sir Fôn. Tybed beth fyddai hi'n i feddwl o sylwadau Emlyn Richards o ben arall yr ynys?

A dyma hi'n amser dweud Twdl Dŵ o Lan Dŵ unwaith eto.

Tan fory, felly - os deil y tywydd a'r dechnoleg.