Lluniau arlunydd Prifwyl yn cael eu dwyn

  • 3 Awst 2012
Penrhiwceiber © Bethan Clwyd
Penrhiwceiber: Un o luniau Bethan Clwyd

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i gar yn cynnwys gwaith arlunydd gael ei ddwyn y tu allan i dŷ yn ardal Treganna o Gaerdydd ddydd Iau.

Mae'r Vauxhall Astra - Rhif cofrestru R175 DFA - yn cynnwys nifer o ysgythriadau ac mae'r heddlu wedi apelio i'r rhai sy'n gyfrifol i ddychwelyd y darnau celf.

Mae arlunydd sy'n arddangos a gwerthu ei gwaith yn yr Eisteddfod hefyd wedi apelio am help y cyhoedd ar ôl i'r lluniau gael eu dwyn.

Roedd Bethan Clwyd o Gaerdydd wedi anfon y lluniau i gael eu fframio ac roedd perchennog y siop fframiau ddydd Iau wedi eu rhoi yng nghefn ei gar.

Ond cafodd y car, oedd yn cynnwys 40 o brintiadau, ei ddwyn ac mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio.

Ymlith y gwaith gafodd ei ddwyn mae dau ddarlun o Benrhiwceiber.

"Roedd y fframiwr yn mynd â'r gwaith adre gan ei fod ar ei hôl hi braidd," meddai Bethan.

"Dwi'n naturiol yn siomedig ond ... anlwc yw hyn. Fydd e ddim yn amharu ar fy wythnos.

"Dwi wedi bod yn anlwcus iawn," meddai.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.